
Gall myfyrwyr hoffai ddod yn nyrsys iechyd meddwl bellach drefnu eu hastudiaethau i gyd-fynd â'u bywydau personol, diolch i gwrs hyblyg newydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer y cwrs BSc pedair blynedd sy'n dilyn llwyddiant y radd hyblyg ran-amser Nyrsio Oedolion a lansiwyd y llynedd.
Mae'r rhaglen radd nyrsio arloesol hon yn cynnig mwy o hyblygrwydd na gradd nyrsio draddodiadol. Mae'n cynnwys wythnos astudio fyrrach, cysondeb ag amserau tymor ysgol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a chydlynu lleoliadau i gyd-fynd ag ymrwymiadau personol. Mae hyn yn helpu i ddarparu ar gyfer y rhai sydd â phlant oedran ysgol ond hefyd pobl sy'n jyglo ymrwymiadau gofalu neu waith, gan roi hwb mawr i'r gweithlu nyrsio yng Nghymru.
Mae nyrsys iechyd meddwl yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl o bob oed a chefndir ar rai o adegau anoddaf eu bywydau Mae'r Brifysgol yn credu bod gan lawer o ofalwyr brofiadau bywyd go iawn o'r heriau hyn a allai helpu i'w gwneud yn nyrsys tosturiol a galluog.
Meddai Pennaeth nyrsio Prifysgol Abertawe, Catherine Norris: "Mae ein gradd nyrsio oedolion hyblyg wedi bod yn llwyddiant go iawn, felly rydym yn falch iawn o gyflwyno'r rhaglen hon fel maes ymarfer iechyd meddwl. Mae'r amrywiaeth o opsiynau dysgu y mae'n eu cynnig yn golygu y gallai fod yn ddeniadol i'r rhai sy'n gweithio fel gofalwyr neu mewn gyrfaoedd eraill ar hyn o bryd ac sydd eisiau newid eu galwedigaeth ond mae angen iddyn nhw barhau i weithio wrth ddysgu."
Mae'r cwrs wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac fe'i datblygwyd gan y Brifysgol mewn partneriaeth â GIG Cymru. Mae'r ffïoedd yn cael eu hariannu'n llawn trwy fwrsariaeth y GIG a bydd y garfan Iechyd Meddwl gyntaf yn dechrau eu hyfforddiant ym mis Medi 2025
Ychwanegodd Ms Norris: "Fe wnaethon ni groesawu ein myfyrwyr cyntaf ar ein cwrs nyrsio oedolion hyblyg ym mis Ebrill 2024 ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phobl na fyddent fel arall yn cael y cyfle i astudio am radd mewn nyrsio
"Rydym yn hyderus y bydd y cwrs iechyd meddwl yr un mor boblogaidd."
Canmolodd hefyd y byrddau iechyd sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r brifysgol am eu cefnogaeth gyda'r cyrsiau a'u parodrwydd i drafod sut mae lleoliadau'n cael eu strwythuro.
Un myfyriwr sy'n gallu tystio i’r gwahaniaeth y gall agwedd hyblyg at ddysgu ei wneud yw Megan Price, sydd ar y cwrs nyrsio oedolion hyblyg.
Meddai: "Byddwn i'n bersonol wedi cael trafferth astudio ar y cwrs yn llawn amser oherwydd ymrwymiadau bywyd cartref, fel plant a morgais. Mae'r cwrs hyblyg yn rhoi cyfle i mi weld fy mhlant drwy gydol gwyliau'r haf, a gweithio'n rhan-amser ochr yn ochr â'r cwrs."
Gallwch gael mwy o wybodaeth yma am nyrsio yn Abertawe neu e-bostiwch study@abertawe.ac.uk