
Wrth i ddatblygiad trefol barhau i lechfeddiannu coedwigoedd glaw hynaf a mwyaf amrywiol y Ddaear, mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe yn datgelu bod mamaliaid bach brodorol ac ymledol yn rhannu eu microbau wrth iddynt addasu i'w cynefinoedd newidiol.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Molecular Ecology ac mae'n archwilio cymunedau microbaidd y perfedd cannoedd o famaliaid bach - tair rhywogaeth o lygod mawr ac un rhywogaeth chwistlen - ar draws ardaloedd cynefinoedd o'r ddinas i'r goedwig law yn Borneo.
Arweiniwyd yr astudiaeth gan Alessandra Giacomini sy'n fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Abertawe ac fe'i goruchwyliwyd gan Dr Tamsyn Uren Webster a Dr Konstans Wells, sy'n goruchwylio ymchwil y Brifysgol ym maes bioamrywiaeth ac iechyd anifeiliaid.
Gan weithio gyda chydweithwyr rhyngwladol, gwnaeth y tîm ddarganfod bod gan y llygoden fawr ddu (Rattus rattus), rhywogaeth ymledol a geir yn gyffredin mewn dinasoedd a threfi, ficrobïom y perfedd sy'n fwy tebyg i lygoden fawr frodorol y goedwig law (Sundamys muelleri)— yr unig rywogaeth leol sydd wedi llwyddo i addasu i fywyd trefol- na'i pherthynas ymledol agos, llygoden fawr Norwy (Rattus norvegicus).
Dywedodd Ms Giacomini: "Mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod rhannu'r un amgylchiadau amgylcheddol yn gallu sbarduno tebygrwydd mewn microbïomau i raddau tebyg, neu hyd yn oed i raddau mwy, na pherthynas gyffredinol y rhywogaeth letyol."
Gwnaeth y chwistlen (Suncus murinus), a adwaenir fel rhywogaeth sy'n preswylio mewn ardaloedd trefol, sefyll allan gan fod ganddo broffil microbïom gwahanol iawn, gan amlygu amrywiaeth ymatebion microbaidd ymhlith rhywogaethau sy'n addasu i dirweddau a gafodd eu haddasu gan bobl.
Canfuwyd mai microbiomau llygod mawr Norwy ymledol oedd y rhai mwyaf gwahanol o ran proffiliau microbaidd y rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd trefol a'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd maestrefol. Mae hyn yn awgrymu bod y math o amgylchedd a'r modd y mae'r llygod mawr yn ei ddefnyddio yn dylanwadu ar sut y caiff microbïomau eu rhannu rhwng gwahanol rywogaethau yn ogystal â dylanwadu ar sut y gall cynefin a deiet ffurfio microbïomau unigolion o'r un rhywogaeth.
Esboniodd Dr Wells: "Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch rôl microbïomau'r perfedd wrth helpu anifeiliaid i addasu i amgylchoedd newydd a newidiol."
Mae ymchwil y tîm yn cynnig cipolwg newydd ar effaith trefoli ar fywyd gwyllt o ran lle mae anifeiliaid yn byw yn ogystal â sut y gall ddylanwadu ar eu perthnasoedd â'r organebau microbaidd sy'n byw y tu mewn iddynt. Mae hefyd yn cyflwyno goblygiadau posibl ar gyfer eu hiechyd ac ymlediad afiechydon heintus cysylltiedig.
Gallai deall y newidiadau hyn helpu i ragfynegi pa rywogaethau brodorol ac ymledol sy'n ffynnu - a pha rai sy'n wynebu problemau - mewn amgylchoedd sy'n newid yn gyflym.
Mae grwpiau ymchwil Dr Uren Webster a Dr Wells bellach yn ehangu ar y gwaith hwn i archwilio amrywiaeth o rywogaethau ac ecosystemau eraill.