
Mi fydd Prifysgol Abertawe yn cynnal gwledd o weithgareddau ar stondin y GwyddonLe ar faes Eisteddfod Dur a Môr 2025 ym Mharc Margam rhwng 26-31 Mai.
Thema’r GwyddonLe eleni yw ‘Gwreiddiau’, a bydd modd i ymwelwyr archwilio gwreiddiau clefydau ar y stondin biofeddygol. Bydd yr Ysbyty Tedi poblogaidd yn dychwelyd yng nghornel Ysgol Feddygaeth, ynghyd â chyfle i ddysgu sgiliau achub bywyd. Am y tro cyntaf eleni, bydd stondin newydd ar Genomeg yn canolbwyntio ar DNA a sut mae genynnau’n cael eu hetifeddu. Bydd y tîm Fferylliaeth yn rhannu hanes Meddygon Myddfai ac yn trafod sut mae'r byd naturiol yn dal i ddylanwadu ar feddyginiaeth gyfoes.
Ar stondin y Biowyddorau, gall ymwelwyr ddarganfod manteision iechyd gwymon a micro algâu Cymru. Bydd gweithgareddau daearyddiaeth yn caniatáu i gyfranogwyr archwilio atebion i lifogydd arfordirol a dysgu am hanes yr hinsawdd drwy rew. Bydd Y Syrcas Fathemategol a’r Her Stroop, a gyflwynir gan ymchwilwyr Seicoleg, yn dychwelyd i ysgogi a diddanu meddyliau ifanc.
Yn yr ardal dechnegol, bydd gemau rasio E-Chwaraeon Cymru yn ôl, ynghyd â Technocamps, a fydd yn cynnig gweithgareddau codio a roboteg. Bydd ymwelwyr yn gallu archwilio gemau realiti rhithwir ac yn dysgu am dreftadaeth ddigidol Margam a’r cylch drwy stondin Dechreuadau Digidol y tîm Cyfryngau.
Drwy gydol yr wythnos, bydd ardal grefft arbennig yn gwahodd ymwelwyr i greu crëyr origami i nodi 80 mlynedd ers bomio Hiroshima a Nagasaki ac i gyd-fynd â Blwyddyn Cymru a Japan 2025, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd pobl ifanc ledled Cymru yn cael eu gwahodd i blygu’r crehyrod fel symbolau o heddwch ac ysgrifennu negeseuon ar eu hadenydd. Bydd y creadigaethau hyn yn cael eu harddangos y tu allan i’r GwyddonLe, gan dyfu bob dydd. Yn ddiweddarach, byddant yn cael eu hanfon i Gofeb Heddwch y Plant ym Mharc Coffa Heddwch Hiroshima, gan ymuno â miloedd o grehyrod eraill sy’n coffáu’r plant a laddwyd gan y bom atomig ac yn mynegi ewyllys plant Cymru dros heddwch yn y dyfodol.
Bydd Her Sefydliad Morgan yn dychwelyd ddydd Gwener 30 Mai, sef cystadleuaeth siarad cyhoeddus lle bydd disgyblion o Ysgol Gwent Is Coed ac Ysgol Bryn Tawe yn dadlau’r gosodiad: ‘Gallai deallusrwydd artiffisial chwarae rôl hanfodol yn nyfodol gofal iechyd yng Nghymru’. Gosodwyd y testun gan Dr Jeff Davies, Athro Cysylltiol mewn Niwrobioleg Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Abertawe, a bydd ef yn beirniadu’r gystadleuaeth gyda Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, Gorllewin De Cymru.
Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, yn bartner allweddol ac yn hyrwyddwr gwaith Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir (CYDC), gyda’r nod o gynnal rhaglen barhaus o ddigwyddiadau dawns gyfoes. Fel rhan o’r bartneriaeth hon, bydd CYDC yn perfformio am 10.30am ar fore Mercher 28 Mai ar lwyfan y Garddorfa fel digwyddiad allgymorth o’r GwyddonLe.
Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, Treftadaeth a Diwylliant ym Mhrifysgol Abertawe: “Gan mai sefydliad yw Prifysgol Abertawe sydd wedi cefnogi’r Eisteddfod drwy nawdd a gweithgareddau yn y GwyddonLe ers bron i bymtheg mlynedd, mae croesawu’r Eisteddfod i Fargam eleni wedi arwain at gyfnod o gyffro a pharatoi dwys gan staff a myfyrwyr. Bydd hynny’n arwain at wythnos fythgofiadwy ar y Maes, gyda’r GwyddonLe yn llawn gweithgareddau ysbrydoledig, staff yn beirniadu a chyfrannu ar stondinau ar hyd y Maes, a myfyrwyr yn cymryd rhan ar y llwyfannau. Mae'n addo bod yn ddathliad arbennig o gyfoeth ein diwylliant Cymraeg ac o’r rhanbarth unigryw hwn o Gymru.”