
Teithiodd Dr Rhian Hedd Meara i ynys Heimaey yng Ngwlad yr Iâ i ffilmio Isle of Fire.
Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i lansio cyfres fideos addysgol arobryn sy'n dod â ffrwydradau yng Ngwlad yr Iâ i ystafelloedd dosbarth, gan gynnig dealltwriaeth ddyfnach i fyfyrwyr o ragweld ffrwydradau folcanig a rheoli peryglon.
Mae “Isle of Fire | Lessons in Volcanic Hazard Management from Heimaey to Grindavik” yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ym maes llosgfynyddoedd a chymunedau yng Ngwlad yr Iâ ynghyd mewn prosiect arloesol.
Datblygwyd y gyfres gan Time for Geography, ac mae'n darparu safbwynt 50 mlynedd digynsail o ran un o'r ffrwydradau pwysicaf yn hanes rheoli peryglon folcanig: ffrwydrad 1973 ar ynys Heimaey yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ.
Mae Isle of Fire yn seiliedig ar bedair blynedd o ymchwil academaidd a gyhoeddwyd gan Dr Rhian Meara o Brifysgol Abertawe.
Dywedodd cyd-awdur a chyflwynydd y gyfres, Dr Meara sy'n uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth: "Mae ymgysylltiad Prifysgol Abertawe ag Isle of Fire yn amlygu ein hymrwymiad i ymchwil arloesol sy'n cael effaith go iawn ar y byd.
“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda thîm ardderchog o arbenigwyr a'r gymuned leol i ddod â'r astudiaeth achos anhygoel hon yn fyw i ddaearyddwyr y dyfodol."
Ochr yn ochr â Dr Meara, mae'r prosiect yn cynnwys gwybodaeth gan nifer o arbenigwyr blaenllaw eraill, gan gynnwys y cyd-gyflwynwyr yr Athro Janine Kavanagh (Prifysgol Lerpwl), Dr Marc Reichow (Prifysgol Caerlŷr), a Dr Jane Boygle a Dr Iestyn Barr (Prifysgol Metropolitan Manceinion).
Gyda'i gilydd, maen nhw'n arddangos technegau blaengar ym maes ail-greu a rhagfynegi ffrwydradau, yn ogystal â strategaethau rheoli modern; sy’n bwysicach nag erioed, o ystyried gweithgarwch folcanig presennol ar benrhyn Reykjanes, sy'n bygwth ardaloedd poblogaeth am y tro cyntaf ers 1973.
Dywedodd cynhyrchydd a chyflwynydd y gyfres, Dr Rob Parker, cyfarwyddwr Time for Geography: "Yr hyn a oedd yn allweddol i'r prosiect hwn oedd cyfraniadau amhrisiadwy cydweithrediad unigryw o fylcanolegwyr ac arbenigwyr peryglon, yn ogystal â'r rhai hynny a oedd yno ar y pryd, yn profi, yn ffilmio ac yn tynnu lluniau o'r ffrwydrad. Galluogodd hyn i ni ddod â'r digwyddiadau a'u harwyddocâd gwyddonol yn fyw ar y sgrîn, drwy gynnwys straeon heb eu hadrodd, recordiadau heb eu gweld a gwybodaeth newydd sbon."
Mae cyfres Isle of Fire wedi'i chydnabod yn genedlaethol, gan ennill tair gwobr o fri am ei heffaith ar addysg ddaearyddiaeth:
- Gwobr Cyhoeddwyr Arian 2025 y Gymdeithas Ddaearyddol - gan gydnabod ansawdd eithriadol y gyfres wrth ddatblygu addysg Ddaearyddiaeth.
- Gwobr Cyhoeddwyr Clod Uchel 2025 y Gymdeithas Ddaearyddol - gan anrhydeddu'r gynhadledd rithwir i fyfyrwyr a ysbrydolwyd gan y gyfres, sydd wedi cyfrannu at addysg ddaearyddol a datblygiad proffesiynol.
- Gwobr Adnodd Cymdeithas Athrawon Daearyddiaeth yr Alban 2024 - gan ddathlu effaith Time for Geography ar addysg ddaearyddiaeth yn yr Alban, gan gydnabod Isle of Fire fel prosiect blaenllaw 2024 y platfform.
Roedd y gyfres mynediad agored a hyd llawn hon yn bosib diolch i gymorth ardderchog cymuned o bartneriaid Time for Geography, gan gydnabod yn arbennig y partner teithio addysgol Rayburn Tours, a arweiniodd ymgyrch ffilmio dwys gan arddangos daearyddiaeth ffisegol a dynol ynysfor Vestmannaeyjar, sy'n cynnwys prosesau a thirffurfiau folcanig helaeth.
Dywedodd Dr Meara: "Hoffem ddiolch i gymuned Vestmannaeyjabær am ei chefnogaeth wych a'i chyfraniadau gwerthfawr at y prosiect hwn. Bu'n fraint helpu i ddod â stori Heimaey yn fyw am genhedlaeth newydd mewn ystafelloedd dosbarth.”
Archwiliwch sut mae rheoli peryglon folcanig wedi datblygu o Heimaey i Grindavik—gwyliwch Isle of Fire.