
Yn ôl astudiaeth newydd, mae canran (43%) yr athletwyr benywaidd sydd o'r farn bod cynnwys athletwyr â DSD (gwahaniaeth o ran datblygiad rhyw) yn y categori benywaidd ar gyfer chwaraeon cyswllt megis rygbi a chwaraeon digyswllt sy'n dibynnu ar allu corfforol megis sbrintio, yn fwy na'r ganran (36%) sydd o'r farn bod hyn yn annheg.
Canfu'r astudiaeth hefyd fod y rhan fwyaf o athletwyr o'r farn ei bod yn anfoesegol mynnu bod athletwyr â gwahaniaeth o ran datblygiad rhyw yn cymryd meddyginiaethau i gymhwyso.
Dywed yr ymchwilwyr y dylai'r cyrff sy'n llywodraethu athletau ddefnyddio'r data newydd hwn ar farn athletwyr i ddiweddaru eu polisïau cymhwyso.
Ystyr DSD yw gwahaniaeth o ran datblygiad rhyw yn Saesneg. Nid yw pobl â DSD bob amser yn datblygu ar hyd llinellau gwrywaidd-benywaidd nodweddiadol. Gall eu hormonau, eu genynnau a’u horganau atgenhedlu fod yn gymysgedd o nodweddion gwrywaidd a benywaidd. Yr athletwr mwyaf adnabyddus â DSD yw'r rhedwr o Dde Affrica, Caster Semenya.
Mae canlyniad yr astudiaeth newydd yn gwrthgyferbynnu â chanfyddiad blaenorol y grŵp ymchwil, a ddefnyddiodd yr union un dulliau, sef bod canran (48%) yr athletwyr a oedd o'r farn ei bod yn annheg i athletwyr trawsryweddol gystadlu yn y categori benywaidd yn fwy na'r ganran (38%) a oedd o'r farn bod hynny'n deg.
Yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn yr European Journal of Sport Science yw'r unig bapur o'i fath. Mae'n crynhoi barn 147 o athletwyr benywaidd cenedlaethol, elît ac o safon fyd-eang o amrywiaeth o chwaraeon a gwledydd ynghylch cymhwysedd athletwyr â gwahaniaeth o ran datblygiad rhyw (DSD).
Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys 21 o bencampwyr byd, 15 o gystadleuwyr yn y Gemau Olympaidd - gan gynnwys dau enillydd medal aur, tri enillydd medal arian a thri enillydd medal efydd - a chwe chystadleuydd yn y Gemau Paralympaidd.
- Roedd y rhan fwyaf (67%) o’r athletwyr o'r farn ei bod hi'n anfoesegol mynnu bod athletwyr â DSD yn cymryd meddyginiaethau i gymhwyso.
- Ar y cyfan, nid oedd yr athletwyr o blaid categori ar wahân ar gyfer athletwyr â DSD, barn a fynegwyd ar ei chyfraf (70%) ar gyfer chwaraeon manwl gywirdeb.
- Datgelodd yr arolwg hefyd fod mwyafrif sylweddol (82%) o'r farn y dylai cyrff chwaraeon wella cynwysoldeb ar gyfer athletwyr â DSD a dim ond 8.2% oedd o'r farn bod athletwyr o'r fath yn cael eu trin yn deg.
Fel rhan o'r prosiect The Differences in Sex Development (DSD) and Transgender Elite Sport (DATES), cafodd yr astudiaeth ei harwain gan Dr Shane Heffernan o'r Ganolfan Ymchwil Gymhwysol i Chwaraeon, Technoleg a Meddygaeth (A-STEM) ym Mhrifysgol Abertawe, ar y cyd â'r prif gydweithredwyr, yr Athro Alun Williams a Dr Georgina Stebbings o Sefydliad Chwaraeon Prifysgol Metropolitan Manceinion, a Dr Marie Chollier o Brifysgol Caer.
Meddai Dr Shane Heffernan, Uwch-ddarlithydd mewn Ffisioleg Foleciwlaidd a Maeth ym Mhrifysgol Abertawe:
"Mae gan athletwyr â DSD un o sawl cyflwr genetig sy'n arwain at briodoleddau ffisioleg amrywiol ac unigol. Hyd yn hyn, does dim tystiolaeth empirig i ddangos bod gan athletwyr DSD fantais athletaidd mewn chwaraeon elît. Serch hynny, mae pobl wedi amau eu cymhwysedd ers blynyddoedd lawer oherwydd llwyddiant ychydig o athletwyr unigol. Mae hyn wedi sbarduno llawer o fersiynau o'r meini prawf cymhwyso, sydd wedi'u creu heb lawer o dystiolaeth a adolygir gan gymheiriaid i gefnogi dewisiadau polisi. Un maes sydd wedi cael ei esgeuluso'n benodol yw 'llais yr athletwyr benywaidd sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau cyson hyn mewn polisïau ynghylch cymhwysedd yr unigolion sy'n cael eu rheoleiddio, sef athletwyr DSD.
"Mae canlyniadau ein hastudiaeth yn dangos bod barn athletwyr yn amrywio gan ddibynnu ar y gamp dan sylw. Serch hynny, fel grŵp cyfan roedd grŵp yr athletwyr a oedd o'r farn bod cynnwys athletwyr DSD yn deg (>59%) ychydig yn fwy na'r grŵp a oedd o'r farn bod hyn yn annheg ac roedden nhw hefyd yn meddwl na ddylen nhw gystadlu mewn categori ar wahân. Roedd hyn yn seiliedig ar farn athletwyr chwaraeon Olympaidd cydnabyddedig ond, yn bwysig, roedd y rhan fwyaf (67%) yn cytuno bod rheoliad diweddar World Athletics, sef bod rhaid i athletwyr gymryd meddyginiaethau er mwyn cydymffurfio â rheoliadau, yn anfoesegol.
“Yn y gorffennol, mae World Athletics a chyrff llywodraethu chwaraeon eraill wedi defnyddio ein data am farn athletwyr benywaidd ar gynnwys athletwyr trawsryweddol wrth ymgynghori ar eu polisïau cymhwyso a'u hail-werthuso. Dylen nhw hefyd ddefnyddio'r data newydd hyn ar athletwyr â DSD yn yr un ffordd, a chydnabod bod athletwyr DSD a thrawsryweddol yn wahanol, eu bod yn cael eu hystyried felly gan athletwyr benywaidd elît presennol, ac na ddylen nhw gael eu trin yn yr un ffordd nac yn gyfunol wrth lunio polisïau cymhwyso newydd."
Meddai Alun Williams, Athro Genomeg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Sefydliad Chwaraeon Prifysgol Metropolitan Mancenion ac un o brif gydweithredwyr yr astudiaeth ar y cyd â Dr Georgina Stebbings:
"Mae gan athletwyr â DSD gyflyrau genetig prin sy'n effeithio ar eu bioleg, gan gynnwys eu systemau atgenhedlu a'u lefelau hormonau, ac mae eu cymhwysedd i gystadlu mewn chwaraeon yn yr un categori â menywod wedi bod yn bwnc llosg ers degawdau. Mae gan wahanol chwaraeon feini prawf cymhwyso amrywiol, yn seiliedig ar dystiolaeth brin iawn. Un math o dystiolaeth sydd wedi bod ar goll hyd yn hyn yw barn athletwyr benywaidd.
"Mae'r ymchwil yn hynod amserol gan fod corff byd-eang un gamp, World Athletics, wedi dweud yn ddiweddar y bydd yn cyfuno ei reoliadau ar gyfer athletwyr trawsryweddol ac athletwyr â DSD.
“Does dim cyfiawnhad gwyddonol ar gyfer hyn ac mae'n cyflwyno problemau moesegol enfawr ond mae hefyd yn amlwg nawr, er bod gwahaniaeth barn amlwg, fod mwy o athletwyr benywaidd o'r farn y dylid caniatáu i athletwyr â DSD gystadlu, o'u cymharu â'r rhai sydd eisiau eu gwahardd. Dylai World Athletics a sefydliadau chwaraeon eraill gydnabod y farn hon ac ail-lunio eu rheoliadau."
Mae'r Athro Williams yn arbenigo mewn geneteg a therfynau uchaf perfformiad corfforol dynol, ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth ym maes proffiliau athletwyr elît, y gwelliannau mewn perfformiad a all ddeillio o hyfforddiant corfforol ac anafiadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon, yn ogystal â materion moesegol a pholisi. Mae hefyd wedi ymddangos ger bron y Llys Cyflafareddu ar gyfer Chwaraeon ar ran Caster Semenya yn ei brwydr gyfreithiol gyda Chymdeithas Ryngwladol y Ffederasiynau Athletau (IAAF, World Athletics bellach).