Darlun CGI o adeilad modern aml-lawr gyda gerddi a therasau ar y to, wedi'i amgylchynu gan adeiladau eraill mewn ardal ddinesig.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn £3 miliwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i arwain prosiect mawr newydd a fydd yn archwilio sut gall natur helpu dinasoedd i addasu at newid yn yr hinsawdd.

Mae'r prosiect pedair blynedd o hyd yn un o dri ar draws y DU a ddewiswyd am gyllid drwy Ddyfarniadau Cenhadaeth newydd AHRC. Mae'n gweithredu ymagwedd ffres, gydweithredol at ymchwil, wedi'i ddatblygu â mewnbwn gan bartneriaid cymdeithasol ac arbenigwyr o ystod eang o feysydd.

Enw'r prosiect yw ‘Retrofitting for the Future: Nature-Based Solutions for Climate Adaptation’, a bydd yn edrych ar sut gall dinasoedd a'u trigolion ddod yn fwy iach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy gwydn drwy adeiladu cysylltiadau cryfach â natur. Mae hyn yn cynnwys ail-feddwl sut rydym yn dylunio ac yn ailddefnyddio adeiladau a mannau cyhoeddus - gan gynnwys elfennau naturiol megis planhigion, dŵr, a golau dydd i wella lles a chefnogi'r amgylchedd.

Wrth wraidd y prosiect, ar draws dinas a rhanbarth Abertawe, mae trawsnewidiad adeilad 13 llawr yng nghanol dinas Abertawe. Gynt yn siop Woolworths, mae'r adeilad Biome ar Stryd Rhydychen yn cael ei drawsnewid yn adeilad aml-ddefnydd ffyniannus gyda thai cymdeithasol, masnachu, mannau swyddfa masnachol carbon isel yn ogystal â chyfleusterau cymunedol, addysgol ac arddangosol - pob un wedi'i ddylunio i ailgysylltu pobl â natur.

Yn un o'r cyntaf o'i fath yn y DU, bydd yr "adeilad byw" hwn yn enghraifft ymarferol o sut gall hen fannau trefol gael eu trawsnewid i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a rhoi hwb i les cymunedol.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o fenter newydd AHRC sy'n canolbwyntio ar waith tîm a chydarweinyddiaeth, yn hytrach na modelau ymchwil traddodiadol o'r brig i lawr. Mae'n cyfuno tîm eang iawn o wahanol sectorau, gan gynnwys y byd academaidd, adeiladwaith, tai, ecoleg, iechyd y cyhoedd, a'r celfyddydau.

Meddai Kirsti Bohata, Athro Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n bleser gweithio gyda grŵp mor dalentog o ymchwilwyr a phartneriaid cymdeithasol. Mae'r prosiect hwn yn dangos sut gall y celfyddydau a'r dyniaethau fynd i'r afael â heriau mawr a gwella bywydau. Mae'n gyffrous bod yn un o'r timau cyntaf dan nawdd y cynllun newydd hwn gan AHRC."

Mae'r ymchwil wedi'i datblygu ar y cyd â phartneriaid lleol a chenedlaethol i sicrhau ei bod yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau go iawn y gymuned. Bydd ysgolion lleol, cynghorau, gwasanaethau iechyd, busnesau a sefydliadau tai yn parhau i chwarae rôl ganolog drwy gydol y prosiect.

Meddai Carwyn Davies o Hacer Developments: "Mae'r prosiect Biophilic Living yn fenter hynod unigryw sydd â'r potensial i drawsnewid sut rydym yn llunio ein hamgylcheddau trefol.Trwy roi iechyd, lles a chynaliadwyedd wrth wraidd y cysyniad, ein nod yw creu mannau sy'n weithredol ond hefyd yn feithringar i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio ynddynt.”

Mae'r dyfarniad hwn yn rhoi sêl bendith i genhadaeth ac effaith bosib byw mewn modd bioffilig. Nid oes modd gorbwysleisio'r cyfleoedd y mae’n eu creu ar gyfer arloesi, cydweithredu a newid hir dymor."

Y consortiwm o gyd-arweinwyr yw Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Hacer Developments Ltd, grŵp Pobl, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â phartneriaid lleol a rhyngwladol o fyd diwydiant, iechyd, addysg, polisi, y llywodraeth a'r celfyddydau.

Rhannu'r stori