
Mewn astudiaeth fyd-eang sy'n ddatblygiad pwysig yn y maes, mae gwyddonwyr wedi darganfod llawer mwy o amrywiaeth a hyblygrwydd ym mhatrymau bwydo mosgitos nag yr oedden nhw’n meddwl gynt.
Mae hyn yn herio tybiaethau sydd wedi bodoli am amser hir ynghylch sut mae'r pryfed sy'n cario clefydau yn dewis eu lletywyr.
Mae'r canfyddiadau, sydd wedi eu cyhoeddi yn Global Ecology and Biogeography, yn amlygu'r angen brys i gysoni sut rydym yn olrhain ac yn rhagweld trosglwyddiad clefyd sydd wedi'i ysgogi gan fosgitos mewn hinsawdd newidiol - a fyddai'n sicrhau goblygiadau pellgyrhaeddol o ran trosglwyddiad clefyd.
Cynhaliodd y tîm ymchwil rhyngwladol, dan arweiniad Dr Konstans Wells o Brifysgol Abertawe, fetaddadansoddiad cynhwysfawr o fwy na 15,600 o gofnodion gwaed yr oedd mosgitos wedi bwydo arnynt o astudiaethau a oedd yn defnyddio dulliau moleciwlaidd sbectrwm eang. Rhoddodd y technegau DNA cyffredinol hyn, sy'n ein galluogi i adnabod amrywiaeth eang o rywogaethau lletyol, fewnwelediad hollol newydd i ecoleg fwydo chwech o rywogaethau mosgito pwysicaf y byd.
Dywedodd Dr Wells: "Er ei fod yn hysbys fod gan fosgitos benywaidd ffafriaeth naturiol dros letywyr penodol y maen nhw'n bwydo ar eu gwaed, gwnaethon ni ddarganfod bod eu hymddygiad bwydo gwirioneddol yn amrywio'n fawr ar draws rhanbarthau.
"Mae'r hyblygrwydd hwn yn golygu bod ffactorau amgylcheddol megis gwres a dwysedd da byw yn medru dylanwadu ar ba rywogaethau y mae mosgitos yn eu bwyta - sy'n cymhlethu sut rydyn ni'n rhagfynegi ymlediad clefydau sy'n cael eu cludo gan fosgitos."
Darganfu ymchwilwyr mai mosgitos Culex oedd â’r amrediad ehangaf o letywyr, ac yn bwyta rhwng 179 a 321 o rywogaethau gwahanol. Yn gyferbyniol, roedd mosgitos Aedes yn bwyta rhwng 26 a 65 o rywogaethau, ac roedd amrediadau is gan rywogaeth Anopheles, sef rhwng 7 a 29 o rywogaethau lletyol.
Un o'r pethau a ysbrydolodd yr astudiaeth hon oedd prosiect traethawd hir israddedig gan Meshach Lee, a oedd yn fyfyriwr dan oruchwyliaeth Dr Wells ar y pryd. Awgrymodd ei ddadansoddiad cynnar fod amrywiaeth ar draws rhanbarthau o ran mosgitos yn bwydo ar bobl neu fywyd gwyllt a da byw.
Dywedodd Meshach: "Roedd yr amrywiaeth o ran ehangder arbenigol yn nodedig. Rydyn ni wedi dangos pan ddefnyddir offer moleciwlaidd cadarn mewn metaddadansoddiad, gallwn gael darlun mwy clir a chynhwysfawr o ymddygiad mosgitos."
Er gwaethaf y cipolygon hyn, mae'r ymchwilwyr yn dweud ei fod yn parhau i fod yn anodd rhagfynegi ymddygiad bwydo.
Ychwanegodd Dr Wells: "Er mwyn gwella rhagfynegiadau, mae angen gwell safoni o ran sut y cynhelir astudiaethau ar waed y bwydir arno a sut yr adroddir amdanynt.
"Bydd dulliau moleciwlaidd cyson a data amgylcheddol cliriach yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth wella ein dealltwriaeth o sut y mae mosgitos yn bwydo ar waed rhywogaethau lletyol gwahanol a beth mae hyn yn ei olygu o ran trosglwyddo clefydau niweidiol megis malaria neu ddeng."
Roedd tîm yr astudiaeth hefyd yn cynnwys Dr Tamsyn Uren Webster o Abertawe, Dr Richard O'Rorke o Waipapa Taumata Rau - Prifysgol Auckland, a Dr Nicholas Clark o Brifysgol Queensland.
Dyma'r astudiaeth fawr gyntaf o beth mae mosgitos yn ei fwyta gan ddefnyddio dulliau DNA newydd, ac mae'n dangos cymhlethdod y berthynas rhwng pryfed sy'n lledaenu clefydau a'r anifeiliaid neu'r bobl y maen nhw'n trosglwyddo'r clefyd iddyn nhw, yn enwedig mewn hinsawdd newidiol.
Mae'r awduron yn gobeithio y bydd eu gwaith yn llywio strategaethau iechyd byd-eang ac yn cefnogi gwyliadwriaeth mosgitos mewn ffordd fwy penodol, yn enwedig gan fod clefydau sy'n cael eu cludo gan fosgitos yn parhau i fod yn bryder allweddol yn Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ar gyfer iechyd a lles da.
Darllenwch y papur llawn: Diversity and plasticity in mosquito feeding patterns: a meta-analysis of ‘universal’ DNA diet studies