Dwy fenyw ifanc - un Asiaidd, un Cawcasaidd - yn sefyll boch wrth foch yn edrych ar y camera.

Er bod llawer o bobl yn ymfalchïo yn y ffaith nad ydynt byth yn anghofio wyneb, nid yw mor hawdd i eraill. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe bellach yn archwilio pam mae'n anoddach i rai unigolion adnabod wynebau pobl o grwpiau hiliol sy'n wahanol i'w un nhw.

Roedd yr Athro Jeremy Tree a Dr Alex Jones, o'r Ysgol Seicoleg, am ganfod pa mor gyffredin yw dallineb i ethnigrwydd pobl eraill  - neu ddallineb wynebau fesul categori.

Mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi yn Journal of Experimental Psychology ac maent yn ceisio rhoi mewnwelediad newydd i’r effaith ethnigrwydd hil arall.

Meddai'r Athro Tree: "Rydym wedi bod yn astudio unigolion â gallu hynod wan i brosesu wynebau o'u genedigaeth, a elwir yn brosopagnosia datblygiadol - sy'n debyg i fath o ddyslecsia ar gyfer wynebau - am sawl blwyddyn.

"Ond ni wnaed llawer am y posibilrwydd, yn hytrach na chael problemau prosesu wynebau'n gyffredinol, y gall rhai pobl fod yn hynod wan wrth wahaniaethu rhwng wynebau ethnigrwydd gwahanol. Roeddem am weld pa mor gyffredin yw hyn a beth yw'r goblygiadau."

Defnyddiodd yr astudiaeth ddata o'r DU, Tsieina, De Corea, Singapore, Japan, Awstralia a Serbia gyda chyfranogwyr Asiaidd a Chawcasaidd yn cwblhau profion ar-lein a oedd yn cynnwys cymharu lluniau o wynebau, gyda phrociau penodol megis gwallt, gemwaith neu sbectol wedi'u tynnu. Drwy gyfres o brofion roedd eu gallu i adnabod pobl yn amrywio'n sylweddol. 

Esboniodd yr Athro Tree: "Mae amrywiaeth yng ngallu gwybyddol unigolion yn llawer mwy na'r hyn roeddem wedi'i ragweld. Efallai fod gallu rhai pobl i brosesu wynebau o ddydd i ddydd fod yn hollol iawn ond yn achos  mathau eraill o ethnigrwydd, mae'n nhw'n cael problemau sylweddol - a gall hyn gael canlyniadau difrifol yn y byd go iawn."

Er enghraifft, mewn cyd-destun cyfreithiol, gallai anhawster i adnabod wynebau o ethnigrwydd arall arwain at adnabod ar gam gan lygad dystion, gan arwain at euogfarnau anghyfiawn.

Hefyd mewn rhyngweithiadau cymdeithasol ac mewn gweithleoedd, gall person gael problemau sylweddol wrth adnabod cydweithwyr o gefndiroedd hiliol gwahanol, yn yr un ffordd â phobl sydd â phrosopagnosia'n cael trafferthion gyda phob wyneb.

Dywed yr ymchwilwyr y gall deall yr heriau penodol hyn lywio polisïau mewn lleoliadau cyfreithiol a chymdeithasol i leihau rhagfarn a gwella rhyngweithiadau traws-hiliol.

Nid yw'n glir sut gall profiadau cymdeithasol ac amgylchedd unigolyn ddylanwadu ar y galluoedd hyn, ond mae'r gwaith ymchwil yn gam pwysig i wella dealltwriaeth o sut rydym yn gweld eraill.

Ychwanegodd yr Athro Tree: "Rydym hefyd yn teimlo bod yr astudiaeth hon yn taflu goleuni ar yr amrywiaeth ehangach o unigolion o ran lefelau eu gallu i adnabod wynebau, gan bwysleisio pwysigrwydd ystyried gwahaniaethau unigol i wella ein dealltwriaeth o wybyddiaeth ddynol.

"Mae bob amser yn bwysig cofio er efallai fod person yn brwydro gydag un peth, nid yw hyn yn golygu nad yw'n dda am wneud rhywbeth arall. Yr amrywioldeb hwn rydyn ni am ei amlygu."

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hymchwil flaenorol i ddallineb wynebau yn Ymchwil Wynebau Abertawe  

 

Rhannu'r stori