
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caergrawnt wedi amlygu'r rhesymau dros oediadau ac effeithiau dychrynllyd oediadau - sy'n medru parhau am flynyddoedd - wrth roi diagnosis o lwpws, sy'n gyflwr awto-imiwn.
Yr oediad diagnostig ar gyfartaledd - o adeg profi symptomau lwpws am y tro cyntaf hyd at dderbyn diagnosis o lwpws - ymhlith cyfranogwyr yr astudiaeth oedd 7.5 mlynedd, gydag un claf yn gorfod aros 40 mlynedd. Profodd y cyfranogwyr a dderbyniodd ddiagnosis yn y degawdau diweddaraf oediadau hirach ar gyfartaledd (7 mlynedd, 8 mis) na'r cyfranogwyr a gafodd ddiagnosis yn y 1990au (6 mlynedd, 10 mis), er gwaethaf y gwelliannau sydd wedi'u gwneud i brofion diagnostig.
Dywedodd cyfranogwyr o Gymru iddyn nhw gael oedi a oedd yn amrywio o lai na blwyddyn i hyd at 35 o flynyddoedd, cyn iddynt gael diagnosis cywir o lwpws.
Mae 'Systemic Lups Erythematosus' (lwpws) yn glefyd awto-imiwn gyda symptomau sy'n amrywio o boen yn y cymalau i niwed i'r galon, yr ysgyfaint, yr ymennydd a/neu'r arennau, a all beryglu bywyd. Gall derbyn diagnosis a thriniaeth yn gynnar arafu cynnydd y clefyd a lleihau niwed hirdymor.
Roedd yr ymchwil newydd hon yn defnyddio profiadau 268 o gleifion lwpws ar draws y DU o gael diagnosis o lwpws, gan ddadansoddi ymatebion yr holl gyfranogwyr i arolwg, a chynnal cyfweliadau manwl gyda 25 ohonynt.
Daethpwyd i'r casgliad fod 'cysgodi diagnostig' yn rheswm mawr dros oediadau diagnostig. Mae hyn yn golygu bod symptomau clefyd nad yw wedi cael diagnosis - yn yr achos hwn, lwpws - yn cael ei gysylltu'n anghywir â rhywbeth arall, naill ai cyflwr sydd gan y claf neu gyflwr yr amheuir fod gan y claf, megis iselder, neu nodwedd dybiedig, e.e. esgus bod yn sâl.
Derbyniodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr sawl diagnosis anghywir cyn derbyn diagnosis o lwpws. Dywedodd un cyfranogwr: "Rhwng 2003 a 2018, fe wnaeth meddygon teulu roi diagnosis o straen, gorbryder, iselder ôl-enedigol, y menopos a 'gorwneud hi' i mi". (Cyfranogwr-37, benywaidd, yn ei 50au).
Roedd gwahanol fathau o gambriodoli gan glinigwyr yn cynnwys:
- "Dim byd mawr o'i le": "Dywedodd gormod o ddoctoriaid wrthyf nad oedd unrhyw beth yn bod arnaf, ac y dylen i fynd adref a pharhau gyda fy mywyd". (Cyfranogwr-16, benywaidd, yn ei 40au).
- "Dirgelwch meddygol": Dywedodd clinigwyr wrth gleifion fod eu symptomau'n anesboniadwy neu ei fod yn rhy ddrud i barhau i archwilio'u symptomau e.e. "Penderfynon nhw fod gennyf glefyd hollol newydd." (Cyfranogwr-258, benywaidd, yn ei 40au)
- Y symptomau'n cael eu hystyried ar eu pennau eu hunain: "Roedd gennyf symptomau a oedd yn nodweddiadol o lwpws, ond ni chafodd y symptomau eu rhoi ynghyd." (Cyfranogwr-57, benywaidd, yn ei 40au).
- Rhwystrau diagnostig: Camddiagnosisau - gan gynnwys iechyd meddwl, seicosomatig, Enseffalomyelitis Myalgig (ME) / Syndrom Blinder Cronig (CFS) - a oedd yn anodd i gleifion eu herio. e.e. "Dywedodd feddyg teulu wrthyf fy mod yn dioddef o orbryder, pan es i atynt gyda choesau a oedd wedi chwyddo"
- Cambriodoli moesol:e. "Pan oeddwn i'n blentyn, cefais fy nhrin fel fy mod i'n gelwyddog neu fy mod i'n mynnu sylw gan feddygon." (Cyfranogwr-52, benywaidd, yn ei 40au).
Nododd ymchwilwyr wahanol fathau o effeithiau ar gleifion, a achoswyd gan yr oediadau hyn:
- Arwahanrwydd yn ystod plentyndod: Arweiniodd gambriodoli symptomau lwpws nad oeddent wedi derbyn diagnosis fel "diogi yn eu harddegau" at lai o gymorth gan deulu a meddygon (Cyfranogwr-78, benywaidd, yn ei 50au).
- Niwed i organau a thriniaeth mewn ysbyty. "Es i'n sâl iawn gyda chyflwr oedd yn bygwth fy mywyd, ac roeddwn i ar beiriant cynnal bywyd am 6 diwrnod gyda gwaedlif ar fy ysgyfaint a methiant yr arennau" (Cyfranogwr-87, benywaidd, yn ei 50au).
- Camesgoriadau a chymhlethdodau beichiogrwydd: "Cefais sawl camesgoriad pan oeddwn i yn fy ugeiniau, cefais strôc pan oeddwn i'n 32 oed, roeddwn i'n cael pennau tost a meigryn difrifol, ac yn cleisio'n hawdd ond nid oedd unrhyw un wedi ystyried mai Syndrom Antiphospholipid neu Lwpws oedd yn eu hachosi" (Cyfranogwr-156, benywaidd, yn ei 50au).
- Colli gyrfaoedd: "Roeddwn i'n teimlo wedi fy mychanu, collais fy swydd fel nyrs" (Cyfranogwr-103, benywaidd, yn ei 40au).
Roedd rhai o'r argymhellion niferus i feddygon yn cynnwys e.e. "Pan rydyn ni'n dweud wrthych chi nad ydyn ni'n dychmygu hyn, credwch ni" (Cyfranogwr-98, benywaidd, yn ei 30au).
Dywedodd yr awdur arweiniol, Rupert Harwood o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
"Mae ein hymchwil yn amlygu effaith ddychrynllyd oediad diagnostig wrth roi diagnosis o lwpws, gan gynnwys niwed anadferadwy i organau, ac ansawdd bywyd gwael. Gellir gwneud diagnosis o lwpws mewn ychydig fisoedd, felly mae'n drasiedi fod y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr wedi gorfod aros am flynyddoedd neu ddegawdau".
Dywedodd yr uwch awdur, Dr Melanie Sloan o Brifysgol Caergrawnt:
"Mae diagnosis a thriniaeth amserol yn hanfodol er mwyn lleihau niwed hirdymor. Nid niwed corfforol yw unig effeithiau negyddol oediadau diagnostig, ond mae'r effeithiau hefyd yn cynnwys niwed i iechyd meddwl a pherthnasoedd meddygol yn y dyfodol. Mae meysydd allweddol lle y gellir gwneud gwelliannau yn cynnwys hyfforddiant gwell i glinigwyr o ran y symptomau amrywiol sy'n medru ymddangos gydag awto-imiwnedd, a chlinigwyr yn ystyried symptomau cleifion o ddifri".
Mae'r ymchwil wedi cael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn meddygol, Lupus.