EIN HYMRWYMIAD I STAFF A MYFYRWYR O LEIAFRIFOEDD ETHNIG

Logo - Race Equality Charter

Prifysgol Abertawe yn derbyn ei Gwobr Siarter Cydraddoldeb Hiliol gyntaf.

Mae'r Brifysgol wrth ei bodd i rannu'r newyddion ein bod wedi llwyddo i ennill Gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Mae'r cyflawniad hwn yn arddangos ac yn ategu ymrwymiad y Brifysgol i sicrhau cydraddoldeb hiliol ledled y sefydliad. Mae'r wobr hon yn nodi ymrwymiad a pharhad y gwaith rhagorol a wneir i chwalu rhwystrau sy'n bodoli ar gyfer staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol a sicrhau bod cyfleoedd cyfartal ar gael i bawb.

Mae Prifysgol Abertawe yn aelod balch o'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC), sy'n darparu fframwaith i'r sefydliad er mwyn helpu i nodi a myfyrio ar y rhwystrau sefydliadol a diwylliannol a allai effeithio ar staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol. Mae fframwaith y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn cynnwys y canlynol, ac yn cael effaith gadarnhaol arnynt:

  • Staff proffesiynol a staff cymorth
  • Staff academaidd
  • Dilyniant a chyrhaeddiad myfyrwyr
  • Amrywiaeth y cwricwlwm

Beth yw'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC)?

Wedi'i drefnu gan siarteri cydraddoldeb Advance HE, nod y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yw gwella cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol ym maes addysg uwch. Mae'n rhoi fframwaith y mae sefydliadau'n ei ddefnyddio i hunanfyfyrio ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy'n effeithio ar staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol gan sicrhau cydnabyddiaeth i'w hymrwymiad a'u cynnydd wrth ddileu'r rhwystrau hyn.

 

Dros y 18 mis diwethaf, mae Tîm Hunanasesu y Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC SAT), a arweinir gan yr Athro Camilla Knight (cyn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn), wedi bod yn gweithio gydag Advance HE i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol ar y campws. Mae’r tîm, sydd wedi'i arwain gan fframwaith y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, wedi adolygu, ymgynghori a dadansoddi tystiolaeth a data'n feirniadol er mwyn datgelu gwahaniaethau, heriau a rhwystrau sy'n effeithio ar ein staff a’n myfyrwyr ethnig leiafrifol. Mae'r broses hon wedi bod yn heriol - roedd yn cynnwys ymdrin â materion cymhleth a sensitif a oedd yn gofyn am ymagwedd ofalus ac ystyriol, ynghyd ag arweinyddiaeth gref a chefnogaeth ar lefel uwch er mwyn ysgogi newid ystyrlon.

Canlyniad y broses hon yw bod cynllun gweithredu sefydliadol eang a manwl, a fydd yn weithredol am 5 mlynedd, wedi cael ei greu er mwyn mynd i'r afael â 7 blaenoriaeth allweddol i wella profiadau staff a myfyrwyr ethnig leiafrifol a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Y meysydd blaenoriaeth allweddol yw:

  1. Datblygu diwylliant cynhwysol ar gyfer staff a myfyrwyr lle mae'r holl unigolion, ond yn enwedig y rhai ethnig leiafrifol, yn nodi ymdeimlad o berthyn
  2. Archwilio a mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng nifer y cydweithwyr ethnig leiafrifol yn y gwasanaethau proffesiynol ac ymchwilwyr sydd â chytundebau am gyfnod penodol, o’i gymharu â chydweithwyr gwyn.
  3. Adolygu a mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng y tebygrwydd y bydd cydweithwyr ethnig leiafrifol yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer rolau academaidd, gwasanaethau proffesiynol ac ymchwilydd ac yn cael eu penodi i’r rolau hynny, o’i gymharu â chydweithwyr gwyn.
  4. Deall a mynd i'r afael â'r gwahaniaeth yn y gyfradd lwyddiant am ddyrchafiad rhwng cydweithwyr academaidd ethnig leiafrifol a chydweithwyr academaidd gwyn ar draws yr holl raddau
  5. Cynyddu cynrychiolaeth cydweithwyr ethnig leiafrifol ar bwyllgorau sy'n gwneud penderfyniadau ar draws y Brifysgol
  6. Lleihau'r gwahaniaeth rhwng dyfarnu graddau israddedig i fyfyrwyr gwyn o'r Deyrnas Unedig a myfyrwyr ethnig leiafrifol o'r Deyrnas Unedig a myfyrwyr nad ydynt o'r DU
  7. Sefydlu prosesau clir, hygyrch a dibynadwy ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau o hiliaeth a microymosod ar y campws ac oddi arno, a delio â’r digwyddiadau hynny.

Wrth fyfyrio ar ein cyflawniad diweddar, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle:

”Mae derbyn Gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn garreg filltir bwysig i'n Prifysgol.Mae'n cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yn bwysicach byth, yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ysgogi newid ystyrlon a gwneud cynnydd parhaus wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol.

Mae'r cynllun gweithredu rydym wedi ei ddatblygu yn uchelgeisiol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi cael ei lunio gan brofiadau personol ein staff a'n myfyrwyr ethnig leiafrifol.Mae'n gosod llwybr clir ac angenrheidiol ar gyfer creu amgylchedd mwy teg, cynhwysol a chefnogol ar gyfer holl aelodau cymuned ein Prifysgol.Hoffwn i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hollbwysig hwn.”

Yn y cyfamser, myfyriodd y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn:

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sylw sylweddol wedi ei roi i fynd i'r afael â materion anghydraddoldeb hiliol ar draws y sefydliad.Roedd myfyrio ar y gwaith hwn, yn ogystal â'r gwaith y mae angen ei wneud o hyd, yn gam allweddol wrth lunio ein cais am y Siarter Cydraddoldeb Hiliol.Rydw i'n hynod falch bod y cais a luniwyd gennym wedi cael ei ystyried yn gais cryf gan banel Advance HE.Hoffwn i ddiolch yn fawr i'r holl staff a myfyrwyr a oedd yn rhan o'r cais a'r gwaith ategol.Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cydnabod bod rhagor o waith ar ddod wrth i ni ymdrechu i roi cynllun gweithredu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol ar waith a chymryd camau pellach i sicrhau y caiff Prifysgol Abertawe ei hadnabod fel sefydliad gwrth-hiliol sy'n croesawu pawb."

Mae Gwobr Efydd y Brifysgol yn ddilys am bum mlynedd. Bydd ein Cais llwyddiannus am y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, yn ogystal â'r cynllun gweithredu, yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn ystod yr wythnosau sydd ar ddod.

Gellir gweld rhestr lawn o aelodau Tîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol 2023-2025 yma; REC SAT Membership 2023-2025