TREFNIADAU GWEITHIO HYBLYG
Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod cynnig trefniadau gweithio hyblyg er eich lles chi a'r sefydliad. Mae gan bob aelod staff yr hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg a chaiff ceisiadau eu hystyried gan roi sylw i anghenion busnes y Coleg/Adran.
Mae llawer o fathau gwahanol o batrymau gweithio hyblyg, gan gynnwys y canlynol, ond mae eraill ar gael hefyd:
- Rhan-amser/oriau llai
- Gweithio yn ystod y tymor yn unig
- Oriau gwaith newidiol
- Rhannu swydd
- Gweithio gartref/gweithio o bell
Gwybodaeth Bellach