Absenoldeb Mamolaeth: Rydym yn cynnig absenoldeb a thâl mamolaeth hael i staff sydd wedi cwblhau o leiaf 52 wythnos o wasanaeth di-dor cyn y dyddiad geni disgwyliedig.
Absenoldeb Tadolaeth: Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae hawl gennych i gymryd hyd at bythefnos i ffwrdd, ar dâl llawn.
Rhannu absenoldeb rhieni: Rydym hefyd yn cynnig rhannu absenoldeb rhieni sy’n caniatáu i chi a'ch partner rannu hyd at 52 wythnos o absenoldeb yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i dâl rhieni wedi'i rannu am ran neu'r cyfan o'r cyfnod yr ydych am fod yn absennol.
Absenoldeb Mabwysiadu: Rydym yn cynnig absenoldeb mabwysiadu â thâl i staff sydd ag o leiaf 26 wythnos o wasanaeth gyda'r Brifysgol.
Darllenwch am ein Trefniadau Absenoldeb i Deuluoedd i gael gwybod mwy