Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00392
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
11 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
22 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y swydd hon yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol a darpariaeth ymarferol ar gyfer cyfathrebu beunyddiol a chyfeiriad cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol ac allanol rhagweithiol y Comisiwn. Dyma rôl ymarferol sy'n sicrhau bod cyhoeddusrwydd ac effaith gwaith y Comisiwn yn cael eu mwyafu, gan sicrhau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Mae'r swydd hon hefyd wedi chwarae rôl bwysig wrth sicrhau cysylltiadau ymchwil cryf rhwng y Gyfadran ac adrannau ar draws y brifysgol.

Mae'r rôl yn gweithio'n agos gyda'r tîm i gyfleu'r gwaith a nod y Comisiwn i herio, i newid a hyrwyddo meddwl ac ymarfer  er mwyn sicrhau bod iechyd a gofal cynaliadwy'n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd yn adeiladu ar frand ac enw da Bevan i archwilio ffynonellau dyngarol ac allanol ehangach o gyllid, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho SoM Recruitment Pack - Welsh Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr