- Rhif y Swydd
- SU00625
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £26,038 i £28,879 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 4 Rhag 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 16 Rhag 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Rachel Carpenter rachel.carpenter@swansea.ac.uk
- Rob Garlick R.Garlick@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r swyddi hyn am gyfnod penodol o 12 mis, yn gweithio ar sail amser llawn.
Mae gan Brifysgol Abertawe enw da am ei gwaith ym maes Gwybodeg Iechyd. Mae hanes hir o ymchwil a datblygu systemau gwybodaeth, safonau gwybodaeth ac ymchwil iechyd cyhoeddus wedi ei wneud yn yr Adeilad Gwyddor Data pwrpasol: datblygiad strategol sy’n darparu ystod o ddata cysylltiedig dienw ar boblogaeth Cymru ym maes iechyd a meysydd polisi cyhoeddus eraill, â chyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel o'r radd flaenaf, mewn amgylchedd diogelwch sydd ag achrediad ISO.
Mae Banc Data SAIL a’r Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP) yn gyfleusterau o safon fyd-eang ar gyfer ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau. Maent wedi eu cydnabod yn rhyngwladol, ac yn derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru. Mae biliynau o gofnodion dienw sy'n seiliedig ar y person yn cael eu storio ym Manc Data SAIL ac adrannau eraill o fewn SeRP, ac yn amodol ar fesurau diogelu a chymeradwyaeth; gellir cysylltu'r rhain er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil pwysig.
Rydym yn chwilio am unigolyn i:
- Drefnu a hwyluso cyfarfodydd, seminarau a digwyddiadau mewnol ac allanol (gan gynnwys cylchredeg agendâu, mynd ar ôl camau gweithredu a chymryd cofnodion).
- Archebu nwyddau a gwasanaethau.
- Darparu gwasanaethau rheoli dyddiaduron ar gyfer eu tîm, gan gynnwys ateb ymholiadau ynghylch argaeledd a threfnu apwyntiadau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.