Rhif y Swydd
SD03218
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£23,750 i £27,450 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Arall
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
12 Ion 2025
Dyddiad Cyfweliad
27 Ion 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Liz Stratton e.stratton@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Y Coleg, Prifysgol Abertawe yn bartneriaeth Menter ar y Cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Navitas plc, sy'n bartneriaeth hynod lwyddiannus degawd o hyd, a sefydlwyd yn wreiddiol fel Coleg Rhyngwladol Cymru Abertawe (ICWS). Lansiwyd Y Coleg, Prifysgol Abertawe yn 2018, ac yn dilyn adeiladu adeilad academaidd newydd sbon (Hydref 2018) a llety myfyrwyr (Ionawr 2019), noda hyn gyfnod newydd yn y berthynas hon.

Mae Y Coleg yn rhan o frand Prifysgol Abertawe, ac mae'n cyflwyno portffolio cynhwysfawr o raglenni llwybr sy'n arwain at raddau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r Swyddog Profiad Academaidd a Myfyrwyr yn aelod hollbwysig o dîm y Coleg wrth weinyddu agweddau allweddol cylch bywyd myfyrwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws holl swyddogaethau'r tîm, gan gwmpasu gwasanaethau Academaidd a Myfyrwyr. Mae'r rôl yn amlweddog a bydd angen rhywun sy'n barod i ddysgu ac sy'n hapus yn gweithio mewn amgylchedd cyflym. Bydd gwaith tîm yn un o ofynion hanfodol y rôl, yn ogystal â lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid ac agwedd gadarnhaol at y gwaith. Mae'r rôl yn gofyn am berson ag egni uchel ac sy'n hunan-gymhellol, sy'n gallu defnyddio eu menter a bod yn aelod gweithgar a chynhyrchiol o dîm traws-swyddogaethol

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw . Nid oes angen sgiliau Cymraeg.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dylech anfon llythyr eglurhaol yn arddangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl, ynghyd â'ch CV at Liz Stratton, Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr, Y Coleg, Prifysgol Abertawe: e.stratton@swansea.ac.uk

Peidiwch â gwneud cais gan ddefnyddio'r botwm ymgeisio nawr

Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr