- Rhif y Swydd
- SU00684
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,105 i £45,163 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 9 Maw 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 17 Maw 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Olivier Rouquette Olivier.Rouquette@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol yw hon tan 31 Ionawr 2028, gan weithio’n amser llawn
Rydym yn chwilio am ymchwilwyr uchelgeisiol i ymuno â phortffolio ein tîm Poblogaeth, Seiciatreg, Hunanladdiad a Gwybodeg (PPSI) deinamig. Mae'r cyfle cyffrous hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu offer rhagfynegi risg arloesol ar gyfer iselder cynnar.
Mae'r tîm dan arweiniad yr Athro Ann John, cyd-gyfarwyddwr DATAMIND, prif ymchwilydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, ac arweinydd y thema Gwyddor Data yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Gan weithio yn yr amgylchedd amlddisgyblaethol hwn, byddwch yn defnyddio data gofal iechyd rheolaidd ar raddfa fawr i ddatblygu a dilysu modelau pennu lefel risg, gyda ffocws penodol ar nodi pobl ifanc sydd mewn perygl uchel iawn o ddatblygu iselder cynnar.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol PhD mewn maes perthnasol (Ystadegau, Gwyddor Data, Epidemioleg, Seicoleg), sgiliau rhaglennu cryf (SQL, R, Python), a phrofiad o ddadansoddi data gofal iechyd.
Os ydych yn angerddol am iechyd meddwl, gwahoddir i chi gyflwyno cais am y swydd hon.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.