- Rhif y Swydd
- SU00721
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £26,338 i £29,179 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Ystadau a Gwasanaethau Campws
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 18 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 28 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Rhian Jones rhian.jones@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rôl barhaol yw hon am 21 awr yr wythnos.
Mae'r rôl yn bodloni'r anghenion a'r gofynion sy'n gysylltiedig â darparu profiad cwsmeriaid ardderchog trwy reoli'r Swyddfa Docynnau a CRM, gwerthu a chyfathrebu ar gyfer ystod o weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol, academaidd a masnachol a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ac ar gyfer prosiectau eraill ar y campws ac oddi arno.
Lefel 2 - ‘eithaf da’ e.e. yn gallu deall ystod deg o ohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r swydd, gan gynnwys pan y defnyddir iaith safonol. Yn gallu cynnal sgwrs syml ar bwnc sy'n gysylltiedig â gwaith, ond efallai y bydd angen dychwelyd i'r Saesneg i drafod gwybodaeth gymhleth neu dechnegol. Yn gallu ysgrifennu gohebiaeth adweithiol (nad yw'n arbenigol) gweddol gywir yn Gymraeg.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
A satisfactory DBS certificate must be provided before a start date can be confirmed.
Rhannu Lawrlwytho Llyfryn Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr