- Rhif y Swydd
- SU00756
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £23,581 i £25,433 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Maw 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 28 Chwef 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Helen Baldwin H.Baldwin@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae hon yn swydd Cyfnod Penodol tan 31 Gorffennaf 2025 yn gweithio'n llawn amser.
Mae'r Tîm Ansawdd Academaidd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, cydlynu, arwain a darparu gwasanaethau cymorth a rheoli proffesiynol.
Fel Cynorthwyydd Ansawdd Academaidd a Datblygu Rhaglen byddwch yn derbyn hyfforddiant ar yr holl systemau a gweithdrefnau perthnasol ac yn gweithio yn unol â holl reoliadau, ordinhadau, polisïau a gweithdrefnau, llywodraethu a fframweithiau cyfansoddiadol, gan ofyn am arweiniad gan eich rheolwr llinell lle bo hynny'n briodol.
Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr â phrofiad o weithio mewn addysg uwch ym maes ansawdd academaidd, a chynllunio a datblygu rhaglenni neu sgiliau trosglwyddadwy amlwg.
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, yn rhagweithiol a meddu ar lygad craff am fanylion a gallu gweithio i ddyddiadau tynn dan bwysau, gan ragweld problemau a allai godi.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff academaidd o raglen/ni astudio penodol, neu gefnogi swyddogaeth benodol yn y tîm ledled y Gyfadran, felly mae'r gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol a magu dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.