Cynorthwy-ydd Ymchwil: Deall canfyddiadau'r defnyddiwr o gynhyrchion sy'n cynnwys danadl
- Rhif y Swydd
- SU00764
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £33,882 i £37,999 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 27 Chwef 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 10 Maw 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Laura Wilkinson L.L.Wilkinson@swansea.ac.uk
- Tennessee Randall Tennessee.Randall@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd ran-amser yw hon, gan weithio 21 o oriau'r wythnos tan 30 Medi 2025.
Mae'r rôl hon yn rhan o brosiect cydweithredol a ariennir gan Innovate UK sy'n ymwneud â deall derbynioldeb y defnyddiwr o gynhyrchion arloesol sy'n cynnwys danadl a sut gellir defnyddio'r wybodaeth hon i hyrwyddo dietau iach a chynaliadwy.
Bydd y rôl hon yn cynnwys profi cyfranogwyr wyneb yn wyneb ynghyd â chynnal profion ar-lein, gan adlewyrchu methodolegau seicolegol meintiol ac ansoddol yn y labordy ar Gampws Parc Singleton ac mewn canolfan gymunedol leol yn Abertawe.
Mae'r Ysgol Seicoleg yn lle gwych i ymgymryd ag ymchwil sy'n bwysig. Rydym yn cynnal ymchwil cydweithredol a rhyngddisgyblaethol o safon sy'n cynnwys sbectrwm cyfan gwyddoniaeth seicolegol o ymchwil sylfaenol i ymchwil gymhwysol. Mae'r gweithgarwch hwn yn defnyddio ymchwil flaenorol ar dderbynioldeb y defnyddiwr o fwydydd a chynhwysion arloesol a chynaliadwy a bydd yn rhan o Grŵp Ymchwil Maeth, Archwaeth a Gwybyddiaeth Abertawe (SNAC) sy'n cynnal ymchwil seicolegol ar sbardunau ymddygiad bwyta (yn ogystal â meysydd cysylltiedig).
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.