- Rhif y Swydd
- SU00769
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,105 i £45,163 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 13 Maw 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 20 Maw 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr Dave Clarke D.R.K.Clarke@Swansea.ac.uk
- Dr Novella Franconi novella.franconi@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am ymchwilydd ôl-ddoethurol sydd â sgiliau dadansoddi meintiol cryf i ymuno â'r Tîm Olrhain Pysgod ym Mhrifysgol Abertawe i weithio ar brosiect olrhain pysgod drwy delemetreg acwstig.
Nod y Tîm Olrhain Pysgod yw ehangu’r wybodaeth wyddonol am rywogaethau pysgod ymfudol sy'n cael eu gorbysgota'n fasnachol ac sy'n destun pryder cadwraeth, i ddarparu tystiolaeth well i gefnogi penderfyniadau rheoleiddio ar gyfer datblygiadau yn y diwydiant ynni, mewn pysgodfeydd a chadwraeth.
Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn cynnal dros 100 o dderbynyddion acwstig ym Môr Hafren, gan olrhain naw rhywogaeth pysgod ymfudol (eogiaid yr Iwerydd, brithyllod môr, gwangod, 4 rhywogaeth morgathod, draenogiad môr a llyswennod Ewropeaidd), ynghyd â morfilod. Cynhelir y prosiect mewn cydweithrediad agos â phartneriaid cyllido, gan gynnwys EDF, CEFAS, y Gronfa Treftadaeth, NE, Cyfoeth Naturiol Cymru, EA a Llywodraeth Cymru. Yn fuan, caiff yr aráe o dderbynyddion ei hestyn gan ddefnyddio dros 80 o dderbynyddion olrhain graddfa fain o gwmpas dyfais echdynnu dŵr morol oeri newydd ar gyfer gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point C.
Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddadansoddi data o'r aráe graddfa fain. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar olrhain eogiaid yr Iwerydd a gwangod yng nghyffiniau agos mewnlifoedd a bydd yn cynnwys asesiad o effeithiolrwydd dyfeisiau ataliol acwstig amledd uchel newydd ar gyfer gwangod. Hefyd, bydd cyfle gan ddeiliad y swydd i gymryd rhan mewn gwaith maes, gan gynnwys gweithrediadau tagio a threialon dyfeisiau ataliol. Hyd cychwynnol y swydd hon yw 12 mis, gyda'r posibilrwydd o estyniad os bydd rhagor o gyllid yn cael ei sicrhau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag Adran y Biowyddorau, sy'n gymuned ymchwil fywiog ag ymdeimlad cryf o gyfranogiad a chydweithredu. Mae 100% o ymchwil yr Adran yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn ardderchog yn rhyngwladol o ran amgylchedd ac effaith yn ôl asesiad REF 2021, a dyfarnwyd bod 65% o'n hallbynnau ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.