Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00858
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£56,921 i £65,814 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
27 Gorff 2025
Dyddiad Cyfweliad
18 Awst 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Mark Skippen m.w.skippen@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle gwych i ymuno â Phrifysgol Abertawe a defnyddio eich profiad o addysg drawswladol, datblygu partneriaethau a negodi trefniadau masnachol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n myfyrwyr yn y dyfodol a chynyddu proffil Prifysgol Abertawe ar y llwyfan rhyngwladol. Gan weithio'n uniongyrchol gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol ac uwch-gydweithwyr ar draws y Brifysgol, byddwch yn hyrwyddo datblygiad portffolio byd-eang partneriaethau ac addysg drawswladol Prifysgol Abertawe.


Gan weithio ar y cyd â'n tair Cyfadran a'n Gwasanaethau Proffesiynol, byddwch yn arwain tîm ystwyth newydd sy'n darparu gwasanaeth lefel uchel, gyda dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i gael cefnogaeth ar gyfer datblygu cyfleoedd a fydd yn cynhyrchu incwm ac yn cyfrannu at gyflawni ein pileri strategol rhyngwladol craidd. Rydym yn chwilio am unigolyn llawn ysbrydoliaeth ac uchelgeisiol sydd â chraffter busnes i arwain ar nodi, gwerthuso a datblygu cyfleoedd addysg drawswladol a negodi cytundebau masnachol gyda phartneriaid, gan sicrhau gweithio ar bosibiliadau hyfyw nes eu cwblhau.

Yn ogystal â nodi cyfleoedd arloesol i hyrwyddo ein hagenda ryngwladol uchelgeisiol, byddwch hefyd yn arwain y tîm sy'n gyfrifol am ein rhaglenni symudedd i fyfyrwyr sy'n ein cyrraedd ar raglenni cyfnewid a'r rhai hynny o Abertawe sy'n astudio dramor. Byddwch yn ceisio gwneud y mwyaf o ganlyniadau ein partneriaethau sefydledig ar gyfer astudio dramor a chyfnewid myfyrwyr, gan hyrwyddo profiad ein myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn astudio mewn mannau eraill fel rhan o'u dysgu.

Pan fo angen, byddwch yn teithio tramor rywfaint yn y rôl hon. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion ychwanegol.

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Welsh JD Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr