Rhif y Swydd
SU00909
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
Cystadleuol
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Mai 2025
Dyddiad Cyfweliad
23 Meh 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i arwain Ysgol amlddisgyblaethol hynod lwyddiannus yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, sy'n adnabyddus am ei rhagoriaeth mewn addysg broffesiynol, ymchwil ac arloesi mewn disgyblaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i'r Ysgol, gan gyflawni cynllun strategol y Brifysgol wrth helpu i lunio blaenoriaethau strategol y Gyfadran. Gan oruchwylio cynllun busnes a chynaliadwyedd ariannol yr Ysgol, rheoli adnoddau yn effeithiol a sicrhau buddsoddiad ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Bydd Pennaeth yr Ysgol yn meithrin diwylliant arweinyddiaeth llawn parch sy'n gynhwysol ac sy’n cael ei lywio gan werthoedd, gan ysbrydoli staff i gyflawni rhagoriaeth mewn addysgu, ymchwil a chydweithredu rhyngddisgyblaethol.

Mae'r Ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin gweithwyr proffesiynol medrus ar gyfer y GIG a'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae ganddi enw da am ei phrofiad myfyrwyr a'i harloesedd mewn ymchwil ac ymarfer. Mae'n cynnig rhaglenni ar draws ystod eang o broffesiynau iechyd gan gynnwys Nyrsio a Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol, y Gwyddorau Gofal Iechyd, Gwaith Cymdeithasol, Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau, Therapi Galwedigaethol, Osteopatheg ac Iechyd y Cyhoedd. 

Gweithio'n agos gyda'r Ysgol Feddygaeth i feithrin amgylchedd rhyngbroffesiynol ar gyfer addysg ac arloesi sy'n seiliedig ar ymarfer. Mae ein Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM) sy'n arwain y sector yn ganolbwynt ar gyfer cydweithio.

Yn gartref i raglenni o'r radd flaenaf, lle mae Gwyddor Barafeddygol ymysg y 3 gorau yn nhablau cynghrair y DU yn gyson, mae'r Ysgol yn ceisio gwella perfformiad mewn tablau cynghrair yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ehangu ei chyrhaeddiad byd-eang, a cheir cyfleoedd sylweddol ar gyfer addysg drawswladol, dysgu o bell a chydweithrediadau ymchwil sy'n creu effaith. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a all gefnogi'r uchelgais ryngwladol hon sydd eisoes yn datblygu gyda'n partneriaeth sy'n dod i'r amlwg ym Mauritius.

Dyma benodiad sylweddol parhaol i rôl Athro, a bydd rôl Pennaeth yr Ysgol am dymor o bedair blynedd, yn amodol ar adolygiad perfformiad hanner ffordd drwy'r cyfnod hwnnw.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Rmchwil). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy wefan Veredus - www.veredus.co.uk, gan ddyfynnu
cyfeirnod 17769.

Am drafodaeth gyfrinachol am y rôl, cysylltwch â'n hymgynghorwyr
cynghori yn Veredus:
• Reece D’Alanno ar 07522 624875 neu reece.dalanno@veredus.co.uk
• Veronika Dergal ar 07547 769762 neu veronika.dergal@veredus.co.uk

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr