- Rhif y Swydd
- SU00975
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 19 Meh 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 2 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Cathy Thornton c.a.thornton@swansea.ac.uk
- Sophie Barry s.l.barry@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae gennym ddwy rôl am gyfnod penodol tan fis Medi 2026 yn gweithio 21 awr yr wythnos.
Mae prosiect MAGENTA, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ym Mhrifysgol Abertawe'n ymdrin â bwlch hollbwysig wrth ddeall sut mae ffactorau sy'n ymwneud â'r hinsawdd, yn enwedig gwres, yn effeithio ar iechyd mamau a babanod newydd-anedig mewn cymunedau difreintiedig yng Nghymru a Llundain. Nod yr astudiaeth cysylltu data a samplu biolegol drawsddisgyblaethol hon yw deall effeithiau cysylltiad â gwres yn ystod beichiogrwydd, gan ystyried ffactorau cymdeithasol-ddemograffig, safonau tai a dylanwadau amgylcheddol eraill. Drwy gyfuno dadansoddi data ar raddfa fawr â samplu biolegol, mae MAGENTA am ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r cysylltiad rhwng ffactorau amgylcheddol a chanlyniadau iechyd, gan arwain o bosib at strategaethau a pholisïau iechyd cyhoeddus mwy gwybodus. Rydym yn recriwtio tîm o wyddonwyr data, daearyddwyr, ystadegwyr, imiwnolegwyr ac arbenigwyr yn y labordy i'n helpu i gynnal ymchwil arloesol drwy ddefnyddio data cysylltiedig a thechnegau biosamplu yng Nghymru a Llundain. Byddwch yn cael cyfle i weithio ochr yn ochr ag arweinwyr ym maes data cysylltiedig, ystadegau, epidemioleg ac imiwnoleg ddynol, ac ymuno â chymuned ymchwil fywiog gan ddefnyddio isadeiledd ymchwil a chyfleusterau ymchwil fiofeddygol banc data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw), sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Bydwragedd Ymchwil ar Gampws Singleton ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Ysbyty Singleton ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Bydd yn gyfrifol am asesu a chynnal gweithdrefnau clinigol ar gyfer cyfranogwyr astudiaeth ymchwil, yn unol â'r amcanion a'r protocolau a nodir ym MAGENTA. Bydd y swydd yn cynnwys recriwtio, addysgu a monitro cyfranogwyr yr astudiaeth.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr