- Rhif y Swydd
- SU00996
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 17 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Professor Rich Owen w.r.owen@swansea.ac.uk
- Ellen Parker-Jones ellen.parker-jones@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Clinig y Gyfraith Abertawe am benodi Swyddog Ymchwil i ymuno â'n tîm sy'n gweithio ar brosiect i wella mynediad at gyfiawnder ar gyfer unigolion a busnesau bach a chanolig.
Dyma gyfle cyffrous i Swyddog Ymchwil ymuno â'r tîm yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, fel rhan o brosiect ymchwil o'r enw Prosiect Odyssey a ariennir gan Innovate UK. Partneriaid y prosiect yw: Tabled Technologies Ltd, Prifysgol Northumbria, Prifysgol Keele, Prifysgol Durham a'r Archifau Cenedlaethol. Prif amcan y prosiect yw datblygu ap Cynorthwy-ydd AI i ddarparu cyngor cyfreithiol rhad/am ddim i unigolion a busnesau bach a chanolig. Gan ymdrin yn benodol â chyfraith lles cymdeithasol, bydd pwyslais penodol ar feysydd datganoledig y gyfraith yng Nghymru, tai a gofal cymunedol er enghraifft. Bydd meysydd eraill yn cynnwys mewnfudo, methiant perthnasoedd, cyfraith defnyddwyr a chyfraith anafiadau personol.
Mae'r rôl hon yn gofyn am brofiad o weithio mewn amgylchedd cyfreithiol a bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth sylweddol am y gyfraith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r tîm yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe. Mae'r Clinig yn un o dri chlinig y gyfraith yn unig mewn prifysgolion sydd wedi cyflawni'r Safon Ansawdd Cyngor ac mae ganddo achrediad yr Awdurdod Cyngor Mewnfudo i ddarparu cyngor ar fewnfudo ers 2021. Prif amcan Clinig y Gyfraith yw darparu cyngor a chymorth cyfreithiol o safon uchel i unigolion a busnesau bach a chanolig. Bydd deiliad y swydd hon yn gwneud cyfraniad hollbwysig at gyflawni uchelgais Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton i gefnogi ac ehangu mynediad at gyfiawnder ledled Cymru.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr