- Rhif y Swydd
- SU01000
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £46,735 i £55,755 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 9 Gorff 2025
- Interview Dates
- 17 Gorff 2025 - 18 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Kirsti Bohata k.bohata@swansea.ac.uk
- Mike Fowler m.s.fowler@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol yw hon tan 30 Ebrill 2029.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth i'r blaned. Bydd gennych rôl hanfodol mewn prosiect amlddisgyblaethol ac aml-bartner, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r prosiect yn archwilio dimensiynau diwylliannol, cymdeithasol ac ecolegol ôl-osod bioffilig (h.y. integreiddio 'natur' mewn adeiladau) a rôl isadeiledd gwyrdd ac ôl-osod wrth helpu ein dinasoedd i addasu i newid yn yr hinsawdd. Bydd yn nodi'r heriau rheoleiddiol a dynol sy'n rhwystro mabwysiadu dyluniadau bioffilig helaeth ac yn darparu llwybrau y gellir eu hail-greu at addasu ac ôl-osod trefol bioffilig.
Bydd rheolwr y prosiect yn cydlynu tîm amlddisgyblaethol o fwy na 15 o academyddion a phartneriaid cymdeithasol. Bydd arbenigwyr ym meysydd llenyddiaeth, hanes, ysgrifennu creadigol, dylunio, pensaernïaeth, y gyfraith, anthropoleg, seicoleg ac ecoleg o Brifysgol Abertawe, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant, yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ac arloeswyr ym meysydd adeiladu, tai cymdeithasol, isadeiledd gwyrdd ac atebion sy'n seiliedig ar natur. Bydd yn datblygu ymagwedd drawsddisgyblaethol 'blethedig' at gwestiynau ymchwil ac yn cyd-greu ymchwil a gweithgareddau ar y cyd â chymunedau a phartneriaid. Ar ben rheoli a chydlynu tîm mawr o ddydd i ddydd, a dyletswyddau rheoli risgiau ac adnoddau arferol, disgwylir i reolwr y prosiect chwarae rôl weithgar wrth gefnogi a datblygu egwyddorion ymgynnull timau (a ddatblygwyd gan Brosiect Thrive https://www.liverpool.ac.uk/researcher/what-is-thrive/) a gaiff eu mabwysiadu a'u haddasu gan ein cyd-arweinwyr a'n cydweithredwyr.
Bydd gan y rheolwr prosiect sgiliau rhyngbersonol rhagorol, bydd yn gallu addasu a bydd yn fedrus iawn wrth ddatrys problemau. Bydd yn gallu gweithio'n lleol ac o bosib ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol i ehangu rhwydweithiau a nodi cyfleoedd newydd ar ran y tîm, wrth reoli disgwyliadau partneriaid a sicrhau y caiff terfynau amser a cherrig milltir eu bodloni.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Llyfryn Yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr