- Rhif y Swydd
- SU01002
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Meh 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 8 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Professor Gibin Powathil g.g.powathil@swansea.ac.uk
- Professor Elaine Crooks e.c.m.crooks@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd angen cyfrannu at addysgu ac asesu a goruchwylio myfyrwyr mewn mathemateg, yn bennaf ar lefel israddedig yn yr Adran Fathemateg ac ar draws yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg pan fydd angen, yn ogystal â rhannu cyfrifoldebau gweinyddol sefydliadol ac academaidd. Caiff yr union gyfraniad ei bennu gan Bennaeth yr Adran a Chyfarwyddwr y Rhaglen Fathemateg, wrth ystyried profiad ac arbenigedd deiliad y swydd, ond mae'n debygol o ganolbwyntio ar diwtorialau, darlithoedd, labordai cyfrifiadurol a chydrannau cyfrifiadol. Mae'r swydd yn gofyn am ddarparu safon uchel o addysgu a dysgu myfyrwyr, ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol myfyrwyr. Byddai profiad blaenorol o addysgu yn fantais, ond nid yn hanfodol. Efallai y bydd cyfle neu ofyniad i gyfrannu at addysgu ac asesu ar raglenni ôl-raddedig a addysgir.
Swydd cyfnod penodol am flwyddyn yw hon a fydd yn cyflenwi dros dro ar gyfer aelod o staff sy'n cael cymrodoriaeth ymchwil am flwyddyn, ac yn rhoi cymorth addysgu i gydweithiwr arall er mwyn iddo ganolbwyntio ar ddatblygu rhaglen ar-lein newydd.
Mae Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe'n uchel ei bri am addysgu ac ymchwil: roedd yn y 3ydd safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr yn The Complete University Guide 2025, yn 7fed yn y DU yn The Guardian University Guide 2025, ac yn REF 2021, roedd yn gydradd 16eg yn y DU am ansawdd cyffredinol ei gwaith ymchwil ac ar y brig am effaith, gyda 100% o achosion effaith wedi'u nodi'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac roedd 100% o gyhoeddiadau'r adran yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r Adran yn cynnal chwe grŵp ymchwil: algebra, geometreg a thopoleg, dansoddi a hafaliadau differol rhannol aflinol, biofathemateg, mathemateg gyfrifiadol, tebygolrwydd, ymchwil mewn addysg fathemateg. Ers mis Medi 2018, mae'r adran wedi bod ar Gampws y Bae yn y Ffowndri Gyfrifiadol newydd gwerth £31m a adeiladwyd at y diben, sef cartref yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr