Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01037
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
29 Meh 2025
Dyddiad Cyfweliad
10 Gorff 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan 31 Mawrth 2027, amser llawn.

Fel Swyddog Ymchwil, byddwch yn gweithio gyda'r uwch-ymchwilwyr i gychwyn a gweithredu astudiaethau ymchwil economeg iechyd, gyda ffocws penodol ar ymyriadau iechyd a gofal cymhleth. Byddwch wedi'ch cydleoli yn Uned Dreialon Abertawe (STU), gan roi cyfle i weithio mewn tîm bywiog a chritigol o ymchwilwyr, methodolegwyr, ystadegwyr ac economegwyr iechyd. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich cwestiynau ymchwil eich hun a chyfrannu at hyrwyddo dulliau dadansoddol mewn economeg iechyd a gofal. 

Byddwch yn rhan o Economeg Iechyd a Gofal Cymru sef Canolfan arbenigedd Economeg Iechyd Cymru Gyfan a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Disgwylir i chi gyfranogi'n llawn yn ei weithgareddau, i hyrwyddo gwaith Economeg Iechyd a Gofal Cymru a chyfrannu at gymuned fywiog o ymchwilwyr economeg iechyd a leolir ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich profiad a'ch proffil ym maes ymchwil iechyd. Bydd angen sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog arnoch gan y byddwch yn gweithio gyda phobl o gefndiroedd a sefydliadau amrywiol, gan gynnwys cydweithredwyr sy'n gleifion, yn ofalwyr ac yn aelodau'r cyhoedd. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr