- Rhif y Swydd
- SU01038
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £29,959 i £33,482 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Emily Grimstead e.c.grimstead@swansea.ac.uk
- Bethanie David b.h.denyer@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol o 4 blynedd yw hon o fis Medi 2025 tan fis Medi 2029 yn gweithio 21 awr yr wythnos.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm ymchwil iechyd meddwl blaenllaw sydd wedi sicrhau dros £40 miliwn mewn cyllid ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf. Dan arweiniad yr Athro Ann John, mae'r tîm yn canolbwyntio ar iechyd meddwl plant a'r glasoed ac atal hunanladdiad a hunan-niwed. Yr Athro Ann John yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (NCSSHP) newydd ei dyfarnu, yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Lywodraeth Cymru, mae'n aelod o SAGE ac yn Ymddiriedolwr y Samariaid ac yn Gyd-gyfarwyddwr DATAMIND, Hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Iechyd Meddwl.
Bydd yr NCSPSHR, dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a'r Samariaid, yn trawsnewid atal hunanladdiad a hunan-niwed drwy droi ymchwil arloesol yn effaith byd go iawn.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda’r Rheolwr Prosiect a'r tîm ehangach i sicrhau bod strategaethau cyfathrebu'r rhaglen yn gyffredinol yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys creu a rheoli cynnwys ar gyfer amrywiaeth o blatfformau, gan gydlynu ymdrechion gwaith allgymorth, a chynnal gwaith cyfathrebu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys cyfathrebu â phobl â phrofiad personol. Byddwch hefyd yn cynorthwyo wrth baratoi adroddiadau, ymdrin ag ymholiadau, a chefnogi'r tîm i sicrhau bod y prosiect yn parhau’n gyson â'i nodau a'i amserlen.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu creadigol, trefnus sy'n gallu cydweithio i ymuno â'n tîm. Mae'r rôl yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at ymchwil arloesol sy'n cael effaith byd go iawn ar atal hunanladdiad a hunan-niwed.
Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth a thyfu'n broffesiynol, rydym yn eich annog i gyflwyno cais heddiw!
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr