- Rhif y Swydd
- SU01041
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £23,294 i £23,294 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Ystadau a Gwasanaethau Campws
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 14 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 21 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Leah Black l.l.black@swansea.ac.uk
- Julia Andrews Julia.andrews@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Prifysgol Abertawe'n recriwtio Aelodau Tîm i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr, staff a chwsmeriaid ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae. Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig sy'n datblygu ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygiad parhaus unigolyn.
Mae Gwasanaethau Campws yn gyfrifol am nifer mawr o gyfleusterau i'n myfyrwyr, staff a chwsmeriaid ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae Prifysgol Abertawe. Rôl gyda gwasanaeth amlswyddogaeth yw hon sy’n cynnwys gweithio ar draws cyfleusterau addysgu a chynadledda, cydlynu post y Brifysgol, glanhau, dyletswyddau trin â llaw a darparu gwasanaethau tiroedd, gan gynnwys gweithio yn yr awyr agored. Mae'r gallu i yrru (Trwydded Yrru Lawn yn y DU) yn hanfodol i gefnogi gwasanaethau rhwng y ddau gampws. Mae hon yn swydd amser llawn. Darperir gwasanaethau 7 niwrnod yr wythnos a bydd patrymau gwaith yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion busnes dros unrhyw 5 niwrnod o'r wythnos.
Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu rhagorol. Byddwch yn rhan o dîm sy'n cydweithio i wneud gwahaniaeth a pharhau i gyflawni safonau gwasanaeth uchel i'n cwsmeriaid. Byddwch yn cael eich hyfforddi, eich cefnogi a'ch annog i wella'n barhaus eich safonau proffesiynol eich hun a safonau'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i'n cwsmeriaid.
Nid oes angen profiad. Os oes gennych agwedd gadarnhaol ac rydych yn gweithio'n dda mewn tîm, cyflwynwch gais heddiw.
Os hoffech fod yn rhan o'r tîm, mynegwch eich diddordeb drwy'r ddolen isod.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:
Leah Black - Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Campws - l.l.black@abertawe.ac.uk
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr