Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01044
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £34,132 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Academi Hywel Teifi
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
11 Gorff 2025
Interview Dates
18 Gorff 2025 - 21 Gorff 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Nodwch bod y gallu i weithio’n rhugl ac i safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad allweddol ar gyfer y swydd hon, ac y dylid cyflwyno ceisiadau felly yn Gymraeg.

Swydd cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026

Cyfle i Diwtor ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) sy’n darparu gwersi Cymraeg i oedolion yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae’r rôl yn cynnig cyfle gwych i’r rheiny sy’n frwd i gyfrannu dros ffyniant y Gymraeg o fewn rhanbarth Bae Abertawe a thu hwnt drwy ddatblygu siaradwyr newydd. Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad brwd i sicrhau profiad dysgu rhagorol i ddysgwyr. Ymhlith y dyletswyddau, ac mae’r manylion llawn yn yn Swydd Ddisgrifiad, mae:

  • paratoi a chyflwyno 20 – 22 awr yr wythnos o wersi (ar-lein ac wyneb-yn-wyneb) ar draws ystod o gyrsiau a lefelau yn ôl y galw, gan asesu gwaith a medrau dysgwyr ynghyd â darparu adborth adeiladol, cyson ac amserol;
  • bod ar gael i addysgu gyda’r nos (o leiaf ddwy noson yr wythnos) ac yn achlysurol ar benwythnosau yn ogystal – yn unol â gofynion cynulleidfa a natur y sector,
  • gweithio’n adeiladol a chydwybodol tuag at wella ansawdd y ddarpariaeth gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar brofiadau dysgwyr a sicrhau gwelliant mewn cyfraddau cwblhau a chyfraddau dilyniant blynyddol,
  • cynorthwyo i gynnal a chefnogi rhaglen o weithgareddau ‘Cefnogi Dysgwyr’, a chynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r ddarpariaeth a recriwtio i gyrsiau

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr