- Rhif y Swydd
- SU01056
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £45,413 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 5 Awst 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 18 Awst 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Professor David Ritchie d.a.ritchie@swansea.ac.uk
- Dr Wladislaw Michailow wm297@cam.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe am benodi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol mewn Ffiseg Led-ddargludol a Gwyddoniaeth a Thechnoleg Teraherts. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ymdrech ymchwil ffyniannus i wyddoniaeth led-ddargludol yng Nghanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) newydd Prifysgol Abertawe, sy'n gyfleuster o'r radd flaenaf, a bydd hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at grant rhaglen Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol 'Dyfeisiau a Systemau Teraherts ar gyfer cyfathrebiadau di-wifr sydd â chapasiti uchel iawn (TERACOM)' (teracom.uk), EP/W028921/1. Mae hwn yn brosiect cydweithredol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Leeds a Choleg Prifysgol Llundain.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o ymchwilwyr sydd â’r nod o gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o systemau cyfathrebu sy'n gweithredu yn amrediad teraherts, a bydd yn cymryd rhan mewn cydweithrediadau ar safleoedd gwahanol yn ogystal â chyfarfodydd rheolaidd y consortiwm sy'n cynnig cyfleoedd i rwydweithio. Fel Prifysgol sy'n canolbwyntio ar ymchwil ac sy'n rhan o Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru, mae Abertawe'n cynnig cyfleoedd arbennig ar gyfer ymchwil gymhwysol, datblygiad technoleg led-ddargludol, a chydweithrediadau diwydiannol.
Fel y Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol a ddewiswyd, byddwch chi'n efelychu, yn dylunio ac yn datblygu dyfeisiau teraherts sy'n dibynnu ar ffenomena ffisegol newydd i gyflawni perfformiad digynsail ar gyfer modylu a chanfod teraherts. Byddwch chi'n cynhyrchu'r samplau (dyfeisiau teraherts effaith maes gan ganolbwyntio ar y system deunydd galiwm nitrid) yn ystafell lân CISM. Byddwch chi'n nodweddu'r dyfeisiau newydd ar osodiadau sydd eisoes yn bodoli yn ogystal ag ehangu a datblygu systemau arbrofol newydd ar gyfer eu mesur â ffynonellau teraherts. Byddwch chi'n cyflwyno'r canlyniadau mewn cyfarfodydd prosiect rheolaidd, yn ysgrifennu canlyniadau'r ymchwil ac yn eu cyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.