- Rhif y Swydd
- SU01063
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 8 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 24 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Owen Pickrell w.o.pickrell@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol o 5 mis yw hon, yn gweithio 28 awr yr wythnos. (80% CALl)
Mae'r Grŵp Ymchwil Niwroleg yn gweithio ar ystod o brosiectau a rhaglenni sy'n ceisio gwella gwasanaethau a bywydau pobl sy'n gweithio gyda chyflyrau niwrolegol trwy ymchwil glinigol, genetig a gwyddor data poblogaethau. Rydym yn chwilio am gynorthwy-ydd ymchwil a gwyddonydd data i weithio ar brosiectau ymchwil niwroleg gan ddefnyddio data a gesglir yn rheolaidd yn bennaf gyda banc data SAIL. Gan weithio ar gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe, bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn ymchwil arloesol, yn ymgysylltu â phartneriaid, yn dangos ymroddiad ymarferol ac arbenigedd strategol, ac yn blaenoriaethu ymdrechion ac arbenigedd i gael effaith sylweddol.
Bydd deiliad y swydd tymor penodol hon yn gweithio'n bennaf fel rhan o dîm ar ddefnyddio data a gesglir yn rheolaidd i ddeall trawiadau gweithredol/datgysylltiol yng Nghymru yn ogystal â chynorthwyo mewn prosiect sy'n defnyddio prosesu iaith naturiol i ddeall epilepsi sy'n gwrthsefyll cyffuriau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Dylai ymgeiswyr gynnwys datganiad byr yn eu llythyr eglurhaol ar sut mae eu profiad ymchwil yn berthnasol i'r swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr