Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01069
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£26,338 i £29,179 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
8 Gorff 2025
Dyddiad Cyfweliad
15 Gorff 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Diben y rôl yw cefnogi gwaith Prifysgol Abertawe yng nghydweithrediad Dementias Platform Uk (DPUK), menter sy’n werth £53 miliwn a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Meddygol cyhoeddus/preifat i greu cyfleuster ymchwil i ddementia pellgyrhaeddol ac arloesol, gan gynnwys disgyblaethau ymchwil gwahanol o ymchwil i fôn-gelloedd dynol i ddadansoddi data.  Mae DPUK yn adnodd sy'n arwain y byd ar gyfer ymchwil dementiâu sy'n canolbwyntio ar bobl sy'n ceisio carlamu dealltwriaeth wyddonol, triniaethau ac atal y clefyd.

Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi’r sefydliadau addysg uwch, y partneriaid academaidd a diwydiannol gydag amrywiaeth o swyddogaethau gweinyddol sy'n ymwneud â DPUK. 

  1. Bod yn atebol am drefnu a hwyluso cyfarfodydd, seminarau a digwyddiadau mewnol ac allanol, gan gynnwys:
  • Cylchredeg agendâu a dogfennaeth eraill y cyfarfod.
  • Mynd ar ôl camau gweithredu'r cyfarfod blaenorol
  • Cymryd cofnodion a'u cylchredeg ar ôl y cyfarfod
  • Yr holl weithgareddau gweinyddol cysylltiedig eraill
  1. Ar ôl derbyn cyfarwyddyd gan y Rheolwr Llinell, drafftio agendâu, adroddiadau a dogfennaeth eraill y prosiect.
  2. Codi archebion prynu ar y system fewnol
  3. Trefnu trefniadau teithio ar gyfer tîm DPUK
  4. Gallu ymdrin ag ymholiadau gan randdeiliaid mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol, effeithlon a chwrtais, ac ymateb i ymholiadau mewn modd priodol ac amserol. 
  5. Bod yn hunangymhellol, cymhwyso a defnyddio eich menter eich hun, ceisio dod o hyd i ffyrdd addas o ymdrin â heriau a gofyn am arweiniad pan fo angen.
  6. Cydlynu bwrdd tîm rheoli data DPUK a phrosesu ceisiadau am y prosiect.
  7. Cynrychioli buddiannau’r prosiect yn broffesiynol ar bob adeg.
  8. Glynu bob amser wrth Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO 27001 ar gyfer UKSeRP a'r holl bolisïau a gweithdrefnau cysylltiedig
  9. Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion gwaith a chynnal cysylltiadau gwaith cadarnhaol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi tystiolaeth yn eich CV a'ch llythyr eglurhaol o ran sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr