- Rhif y Swydd
- SU01091
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £23,881 i £25,733 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 15 Medi 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Medi 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Chloe O'Connor Chloe.O.Oconnor@Swansea.ac.uk
- Emma Nehemiah e.j.nehemiah@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r tîm marchnata yn chwilio am Gynorthwy-ydd Marchnata Cynnyrch i chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gofal rhagorol i gwsmeriaid a chefnogi'r gwaith o gwblhau ceisiadau achlysurol am gymorth marchnata gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol.
Yn y rôl hon, byddwch yn rheoli ac yn ymateb i geisiadau marchnata achlysurol gan gydweithwyr drwy'r porth ServiceNow, gan sicrhau bod ymholiadau'n cael eu trin yn effeithlon. Byddwch yn cwblhau ceisiadau yn bersonol pan fo hynny'n bosibl wrth hefyd drosglwyddo tasgau i dimau perthnasol i'w datrys.
Rhan allweddol o'ch rôl fydd cefnogi'r gwaith o hyrwyddo portffolio ysgoloriaethau ôl-raddedig y Brifysgol ar blatfformau trydydd parti, gan helpu i wella gwelededd ac ymgysylltiad. Yn ogystal, byddwch yn gweithio i sicrhau cywirdeb a hygyrchedd gwybodaeth am gyrsiau ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar draws platfformau allanol.
Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at dîm deinamig a helpu i lunio ymdrechion marchnata'r Brifysgol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr