Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01095
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
13 Gorff 2025
Dyddiad Cyfweliad
23 Gorff 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Gwasanaeth Marchnata Prifysgol Abertawe yn chwilio am Swyddog Marchnata profiadol i ymuno â'i Dîm Ymgyrchoedd i gyflenwi am gyfnod absenoldeb mamolaeth tan 3 Gorffennaf 2026.

Bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar weithgarwch ar y we a gweithgarwch digidol a bydd angen profiad ar ddeiliad y rôl mewn dadansoddi'r defnydd o wefannau a'u perfformiad, rheoli cynnwys gwe, creu tudalennau mewn system rheoli cynnwys, ac optimeiddio peiriannau chwilio. Mae profiad o lwyfannau fel GA4, Silktide, Hotjar Google Search Console, Looker Studio, Semrush (neu debyg), Google Tag Manager hefyd yn elfen bwysig o'r rôl hon.

Dyma gyfle cyffrous i ddeiliad y swydd gysylltu ein gweithgarwch marchnata â gwaith datblygu gwefannau ehangach. Bydd gofyn i chi gyfrannu at ymagwedd gydgysylltiedig at yr holl weithgareddau gwe ochr flaen ac ochr gefn a wneir ar draws y gwahanol is-dimau, gan weithio'n agos gyda'r tîm Ymgyrchoedd, y Gwasanaeth Marchnata ehangach, a rhanddeiliaid y Brifysgol. Gyda hyn mewn golwg, bydd cyfathrebu rhagorol a pharodrwydd i gydweithio yn hanfodol.

Mae gan y tîm Ymgyrchoedd gylch gwaith eang sy'n cynnwys cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd, cyflwyno'r holl weithgarwch cyfathrebu i fyfyrwyr yn y dyfodol a gweithgarwch rheoli cysylltiadau cwsmeriaid cysylltiedig, a gweithgarwch digidol arbenigol gan gynnwys perfformiad gwefannau, optimeiddio peiriannau chwilio a hysbysebu digidol. Mae'r tîm (ynghyd â gweddill y Gwasanaeth Marchnata) yn gweithio ar draws marchnadoedd allweddol yn fyd-eang. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Marchnata yn gweithio ar Gampws Singleton ac mae'n gweithio mewn modd hybrid.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr