- Rhif y Swydd
- SU01105
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £46,735 i £55,755 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 14 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 21 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Nerys Williams n.w.williams@swansea.ac.uk
- Cath Norris catherine.norris@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd amser llawn am gyfnod penodol o 12 mis yw hon.
Mae'r Adran Nyrsio yn rhan flaengar, ddeinamig ac uchelgeisiol o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe. Ein nod yw cyflwyno addysg, ymchwil ac arloesi nyrsio o safon sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r adran yn ymroddedig i gyflwyno addysg ragorol ar sail tystiolaeth ar gyfer y rhai hynny sy'n dechrau ar eu taith nyrsio drwy ymgymryd â gradd nyrsio cyn cofrestru gan arwain at gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ynghyd â nyrsys cymwysedig sy'n dymuno ymgymryd â chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus, graddau meistr a rhaglenni doethurol. Mae gennym enw da cenedlaethol am ein harbenigedd wrth ddatblygu nyrsys arbenigol a chlinigol uwch.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n nyrs brofiadol sy'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a fydd yn gallu gwella profiad dysgu ein myfyrwyr yn sylweddol drwy addysgu a datblygiad parhaus y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng ein gwahanol raglenni astudio a'n rhanddeiliaid allweddol yn Gymraeg. Rhaid bod yn Oedolyn Cofrestredig, yn Nyrs Iechyd Meddwl neu’n Nyrs i Blant (sy'n berthnasol i'r maes y caiff ei phenodi i addysgu ynddo). Gan dynnu ar brofiad clinigol perthnasol i fywiogi cyfleoedd dysgu myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn addysgu ar raglenni nyrsio Prifysgol Abertawe, yn cynnal ymchwil a gweithgarwch ysgolheigaidd ac yn cyfrannu at reoli’r rhaglenni hyn yn ôl yr angen.
Bydd deiliad y swydd yn ymwneud yn bennaf â gweithio gyda myfyrwyr sy’n astudio ar y rhaglenni nyrsio cyn cofrestru a bydd yn cynnwys cyfraniadau sylweddol at addysgu a chefnogi myfyrwyr ar raglenni gradd nyrsio cyn cofrestru yn Gymraeg. Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Brifysgol gan lynu wrth strategaeth y Gymraeg a helpu i gyflawni'r targedau a osodwyd ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg a helpu myfyrwyr sydd wedi dewis astudio yn Gymraeg yn y pwnc hwn.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd yn Abertawe a ledled Cymru sy'n gweithio tuag at dyfu'r iaith Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn yr Adran Nyrsio.
pan fo'n briodol, cyfrannu at weithgarwch cynhyrchu incwm masnachol a gweithgareddau cynhyrchu incwm eraill a chyfrannu at sicrhau bod ansawdd a safonau academaidd y Brifysgol yn cael eu cynnal a sicrhau gwelliant parhaus i brofiad myfyrwyr
Meini Prawf Hanfodol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (oedolion, plant, anableddau dysgu neu iechyd meddwl).
- Gradd mewn nyrsio (oedolion, plant, anableddau dysgu neu iechyd meddwl).
- Mae angen siaradwr Cymraeg rhugl sy'n gallu darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y DBS cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr