Darlithydd y Gyfraith (rhan-amser) ac Arweinydd Academaidd ar gyfer y Gyfraith Sylfaenol
- Rhif y Swydd
- SD03223
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £42.00 - £45.00 yr awr
- Patrwm Gweithio
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Arall
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Awst 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Clair Edwards c.l.edwards@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Mae'r Coleg, Prifysgol Abertawe yn bartneriaeth Menter ar y Cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Navitas, partneriaeth hynod lwyddiannus am 14 mlynedd a sefydlwyd yn wreiddiol fel Coleg Rhyngwladol Cymru, Abertawe (ICWS). Lansiwyd Y Coleg, Prifysgol Abertawe, yn 2018 ac, ar y cyd â chwblhau adeilad academaidd newydd sbon (mis Hydref 2018) a llety i fyfyrwyr (mis Ionawr 2019), roedd hyn yn nodi cyfnod newydd yn y berthynas hon.
Mae'r Coleg yn rhan o frand Prifysgol Abertawe ac mae'n darparu portffolio cynhwysfawr o raglenni llwybr sy'n arwain at raddau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Coleg yn addysgu drwy gydol y flwyddyn, ac mae ganddo 3 phrif adeg cofrestru ym mis Medi, Ionawr a Mehefin.
Y rôl
Rydym am benodi Darlithydd brwdfrydig sy'n gymwys i addysgu modiwlau cyfraith sylfaenol i ymuno â'n tîm academaidd. Yn ogystal, yr ymgeisydd llwyddiannus fydd yr Arweinydd Academaidd ar gyfer rhaglen y gyfraith sylfaenol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol angerdd am gyflwyno a datblygu dealltwriaeth myfyrwyr a’u natur chwilfrydig, bydd yn meddu ar gefndir academaidd cryf, ac yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu diddorol. Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu gwybodaeth sylfaenol, arwain myfyrwyr yn eu hastudiaethau academaidd, eu harwain i ddatblygu meddylfryd ymholi a beirniadol, a chyfrannu at weithgareddau ehangach y Coleg.
Fel Arweinydd Academaidd, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag Uwch-reolwyr y Coleg, â chyfrifoldeb am sicrhau uniondeb academaidd rhaglenni sy'n rhan o bortffolio llwybrau'r Coleg. Mae'r gweithgarwch hwn yn cefnogi gwella profiad y myfyrwyr a gwell canlyniadau academaidd.
Ymgyfarwyddwch â rhaglenni'r Coleg drwy ddilyn y ddolen hon:
www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/cyfadrannau/y-coleg/
Anfonwch eich CV a llythyr sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl yn unol â'r meini prawf uchod at Clair Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn c.l.edwards@abertawe.ac.uk
Os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl hon neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am eich addasrwydd, cysylltwch â Clair Edwards.
Gan y gall oriau addysgu amrywio ar draws y flwyddyn academaidd, bydd amserlen o oriau yn cael ei chytuno gyda deiliad y swydd ar ddechrau pob semester.
Bydd y contract tymor penodol yn para dau semester i ddechrau, gyda'r potensial i'w estyn.
Sylwer ei bod yn ofynnol i ymgeiswyr am y rôl fod yn gymwys i weithio yn y DU.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw . Nid oes angen sgiliau Cymraeg.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr