- Rhif y Swydd
- SU01127
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £46,735 i £55,755 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 10 Awst 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 18 Awst 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Dara Almeida Medina Dara.almeidamedina@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Tachwedd 2027, yn gweithio ar sail amser llawn.
Fel Rheolwr Prosiect y ffrwd waith Data a Digidol, bydd gennych rôl allweddol mewn tîm ymchwil iechyd meddwl deinamig a blaengar sydd wedi sicrhau cyllid gwerth mwy na £40M. Byddwch yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ym Manceinion, Coleg y Brenin Llundain, ac mewn sefydliadau ledled y DU i gyflawni prosiectau sy’n seiliedig ar ddata sydd â'r nod o gryfhau cofnodion gofal a rennir ac isadeiledd sy'n cysylltu data ar draws meysydd gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd eich gwaith yn helpu i gyflymu recriwtio cleifion i dreialon clinigol ac yn cefnogi dylunio atebion digidol diogel y gellir eu cyflwyno ar lefel ehangach. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod amcanion y prosiect yn cael eu cyflawni ar amser ac yn unol â'r gyllideb, gan gyfrannu at raglenni a gydnabyddir yn genedlaethol fel y Genhadaeth Iechyd Meddwl ac amgylchedd ymchwil dibynadwy DATAMIND ymhlith eraill.
Bydd agwedd hanfodol ar eich rôl yn cynnwys cefnogi cydlynu a gweithredu Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE) DATAMIND - platfform diogel ledled y DU sy'n galluogi ymchwilwyr i gael mynediad at ddata iechyd meddwl cysylltiedig mewn ffordd reoledig â llywodraethiant priodol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thimau technegol a chydweithwyr academaidd i reoli mynediad i sawl partner, sicrhau cydymffurfiaeth â safonau llywodraethu a diogelu data, a hwyluso llifoedd gwaith didrafferth sy'n cyflymu dealltwriaeth ymchwil. Bydd eich cyfraniadau'n helpu i ddatgloi potensial data sensitif wrth gynnal y safonau uchaf o breifatrwydd ac ymddiriedaeth.
Byddwch yn cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol ar draws y pedair cenedl, gan gydlynu mentrau rhwng sawl partner sy'n hyrwyddo ymchwil, yn cefnogi arloesi gwasanaethau, ac yn y pen draw yn gwella iechyd meddwl y boblogaeth.
Ymunwch â ni i fod wrth wraidd ymchwil drawsnewidiol sy'n creu effaith wirioneddol ym maes iechyd meddwl.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Dylid cyflwyno ceisiadau am y rôl hon ar ffurf CV a llythyr eglurhaol, gan gynnwys rhestr o gyhoeddiadau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr