- Rhif y Swydd
- SU01128
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 10 Awst 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 29 Awst 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Zoe Coombes Z.Coombes@swansea.ac.uk
- Deya Gonzalez D.Gonzalez@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol o 4 mis yw hon, yn gweithio 17.5 awr yr wythnos.
Mae Menter y Rhwydwaith Bioddarganfod Morol yn brosiect cydweithredol rhwng sefydliadau addysg uwch a mentrau yn Iwerddon a Chymru, a ariennir gan Cymru Ystwyth. Mae'r fenter yn canolbwyntio ar hyrwyddo bioddarganfod morol drwy ymchwil ac arloesi, gyda phwyslais ar ddatblygu a masnacheiddio cyfansoddion sy'n deillio o'r môr.
Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect i gefnogi cyflawni gweithgareddau prosiect allweddol, gan gynnwys cyfres o gyfarfodydd ar-lein a sesiwn ysgrifennu ceisiadau am grantiau wyneb yn wyneb yn Nulyn (Tachwedd 2025). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth reoli logisteg, hwyluso cyfathrebu ar draws y consortiwm, a chefnogi datblygiad cynigion ariannu yn y dyfodol.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio ar groesffordd y byd academaidd a diwydiant, gan gyfrannu at ymchwil ac arloesedd effeithiol mewn gwyddor forol. Byddwch yn rhan o dîm bywiog, trawsffiniol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo atebion morol cynaliadwy.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr