Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01189
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
16 Medi 2025
Dyddiad Cyfweliad
22 Medi 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Gyda'n canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf a buddsoddiad gwerth mwy na £500m yn isadeiledd newydd Campws y Bae, mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe'n amlwg yn un o'r canolfannau rhagoriaeth gorau yn y wlad. Mae ein hamgylchedd rhagorol yn cefnogi meysydd ymchwil ac addysgu sy'n bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar draws ystod eang o bynciau Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae'r gyfadran yn gwneud cyfraniad cryf at wireddu strategaeth ryngwladol y Brifysgol hefyd ac yn mynd ati i atgyfnerthu ei harlwy addysg drawswladol.

Ar hyn o bryd mae gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ddwy bartneriaeth addysgol arwyddocaol gyda phrifysgolion yn Tsieina. Rydym wedi cyflwyno dwy Raglen Addysg ar y Cyd hynod lwyddiannus gyda Phrifysgol Peirianneg Harbin ers 2015, ac yn ddiweddar cymeradwywyd Sefydliad Addysg ar y Cyd newydd gyda Phrifysgol Dechnoleg Nanjing gyda'r myfyrwyr israddedig cyntaf yn dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2025.

Bydd deiliaid y swyddi yn cefnogi'r gwaith o ddarparu dysgu ac addysgu rhagorol yn ystod semesterau addysgu ar gampysau ein partneriaid yn Tsieina wrth hefyd gefnogi gweithgareddau dysgu ac addysgu a dyletswyddau eraill pan fyddant ar Gampws y Bae yn Abertawe.  Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o addysgu pynciau israddedig mewn Peirianneg Fecanyddol neu Beirianneg Drydanol ac Electronig.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus fel arfer yn treulio dau floc y flwyddyn sy'n para deuddeg wythnos yr un yn addysgu'n ddwys ar ein rhaglenni ar y cyd. Bydd cyfrifoldebau addysgu yn canolbwyntio i ddechrau ar gyflwyno rhaglenni ym Mhrifysgol Peirianneg Harbin, ond ar ôl hynny gallant hefyd gynnwys addysgu ym Mhrifysgol Dechnoleg Nanjing neu bartneriaid newydd.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr