- Rhif y Swydd
- SU01215
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Hyd 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 23 Hyd 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Ashley Akbari a.akbari@swansea.ac.uk
- Jon Smart j.h.smart@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd amser llawn am gyfnod penodol o 12 mis yw hon.
Dyma gyfle gwych i ymuno â'n tîm cyfeillgar, croesawgar a chefnogol ac i fod yn rhan o arwain y gwaith o ddarparu lefelau ardderchog o gymorth i holl ddefnyddwyr a phrosiectau Banc Data SAIL ar draws ystod o wasanaethau. Byddwch yn rhan o dîm o wyddonwyr data sy'n chwarae rhan greiddiol wrth hwyluso gweithgareddau Banc Data SAIL, gan alluogi defnyddwyr a phrosiectau ar hyd eu taith gyda SAIL, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: o gychwyn prosiect gyda gwaith cwmpasu, cyflwyno ceisiadau am gymeradwyaeth, darparu data i brosiectau cymeradwy, yn ogystal â darparu arbenigedd ynghylch defnyddio'r data ac adolygu a chymeradwyo ceisiadau am allbwn.
Mae Banc Data SAIL yn amgylchedd ymchwil dibynadwy o safon fyd-eang a chanddo bolisïau a phrosesau cadarn a diogel sy'n galluogi mynediad at ddata dienw ar lefel unigol a defnydd o hynny ar gyfer ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau. Mae Banc Data SAIL yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac yn cael ei gefnogi a'i gymeradwyo gan y Llywodraeth. Ar ben hynny, mae Banc Data SAIL yn derbyn cyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill. Ar hyn o bryd, mae Banc Data SAIL yn galluogi ac yn cefnogi tua 350 o brosiectau ymchwil gweithredol ac mae'n derbyn rhwng 60 a 70 o geisiadau newydd bob blwyddyn.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr