Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01228
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Swyddfa’r Is-ganghellor
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
12 Hyd 2025
Dyddiad Cyfweliad
24 Hyd 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Clare Davies clare.e.davies@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

 

Y rôl

Oes gennych chi'r sgiliau blaenoriaethu a chyfathrebu i gefnogi Uwch-dîm Arweinyddiaeth Prifysgol Abertawe? Ydych chi'n sganio'r gorwel yn rhagweithiol, ac yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd deinamig a chyflym ar lefel yr Weithrediaeth?

 

Dyma gyfle cyffrous i weithio'n agos gyda'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, gan ddarparu cymorth gweithredol gwybodus o safon ar draws portffolios amrywiol aelodau’r tîm.

Gyda'i gilydd, mae'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar draws swyddogaethau academaidd a strategol allweddol y Brifysgol. Mae eu portffolios yn allweddol ar gyfer cynaliadwyedd ein Prifysgol a chyflawni nodau strategol ein sefydliad.

 

Gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi aelodau'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth yn uniongyrchol wrth reoli a darparu eu portffolios amrywiol, wrth oruchwylio cymorth gweinyddol o ansawdd uchel, gan gynnwys rheoli dyddiaduron a gohebiaeth yn eu swyddfeydd.

 

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â Thîm Cymorth Gweithredol cydweithredol yn Swyddfa'r Is-ganghellor, a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth i gyflawni eu hamcanion byrdymor a thymor hwy. Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth o ran pob agwedd ar eu portffolios a chynnal eu swyddfeydd, dyddiaduron a gohebiaeth o ddydd i ddydd.

 

Bydd y rôl hon yn allweddol wrth gefnogi'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, drwy gynnig gwasanaeth proffesiynol, yn cael eich cyfeirio a'ch dylanwadu gan flaenoriaethau a gwerthoedd ein Prifysgol a'r sector Addysg Uwch ehangach.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

 

Lawrlwytho Portfolio Officer JD (Welsh) Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr