- Rhif y Swydd
- SU01240
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 21 Hyd 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 28 Hyd 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Dr Gwennan Higham g.e.higham@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r prosiect Llwybrau at y Gymraeg (AHRC IAA) yn chwilio am Swyddog Ymchwil i gefnogi mynediad teuluoedd mwyafrif byd-eang at addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.
Mae Prifysgol Abertawe am benodi Swyddog Ymchwil i gefnogi'r prosiect Llwybrau at y Gymraeg, a ariennir gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).Bydd y swydd tymor byr, hyblyg hon yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni gwaith effaith ymchwil ac ymgysylltu â'r gymuned mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin ac IAITH:Canolfan Cynllunio Iaith Cymru.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar lwybrau at yr Iaith Gymraeg ar gyfer teuluoedd mwyafrif byd-eang yng Nghaerdydd, gyda phwyslais penodol ar wella mynediad at addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn Grangetown a Butetown.Bydd y Swyddog Ymchwil yn gweithio'n agos gyda thîm y prosiect a phartneriaid i feithrin ymddiriedaeth gyda rhieni, arweinwyr cymunedol a rhanddeiliaid, ac i ddylunio a chyflwyno gweithgareddau sy'n adlewyrchu profiadau a safbwyntiau teuluoedd.
Bydd cyfrifoldebau'n cynnwys recriwtio cyfranogwyr, hwyluso grwpiau ffocws a gweithdai, cyd-greu deunydd hyrwyddo, a sicrhau bod data’n cael ei gofnodi a’i ddadansoddi’n gywir.Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cyfrannu at allbynnau ymchwil, cefnogi'r gwaith o’u lledaenu, a chryfhau'r cysylltiadau rhwng y Brifysgol, Mudiad Meithrin, IAITH a chymunedau lleol.
Dyma gyfle ardderchog i ymchwilydd sydd â sgiliau ymgysylltu â'r gymuned cryf, diddordeb mewn amlieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg, a gwybodaeth am ieithoedd cymunedau lleol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau Dilëwch os nad yw’n berthnasol.
Rhannu Lawrlwytho Llyfryn Yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr