Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01242
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
29 Hyd 2025
Dyddiad Cyfweliad
7 Tach 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Kirsti Bohata K.Bohata@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r prosiect yn brosiect aml-bartner ac amlddisgyblaethol, ‘Retrofitting for the Future – Nature-Based Solutions to Climate Adaptation’, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Ymchwil sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol sydd hefyd yn angerddol am wneud gwahaniaeth i'r blaned. Byddwch yn chwarae rhan ganolog fel Cynorthwyy-dd Ymchwil o fewn prosiect aml-bartner ac amlddisgyblaethol, ‘Retrofitting for the Future – Nature-Based Solutions to Climate Adaptation’, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. 

Mae'r prosiect yn archwilio dimensiynau diwylliannol, cymdeithasol ac ecolegol ôl-osod bioffilig (h.y. integreiddio 'natur' i adeiladau) trwy lygaid yr Adeilad Biophilic Living yn Abertawe (“Biome”) – adeilad wedi’i ôl-osod yn gynhwysfawr , yn seiliedig ar natur, o hen siop Woolworth, gyda thai cymdeithasol dros y llawr gwaelod ar gyfer mentrau cymdeithasol cynaliadwy a gweithgareddau eraill.

Mae'r prosiect yn archwilio sut mae ôl-osod Isadeiledd Gwyrdd – atebion sy'n seiliedig ar natur fel toeau a waliau gwyrdd, gerddi glaw ac yn y blaen – yn helpu dinasoedd i addasu i newid hinsawdd. Bydd y prosiect yn nodi heriau rheoleiddiol a rhai sy'n canolbwyntio ar bobl sy'n rhwystro mabwysiadu dylunio bioffilig yn eang ac yn darparu llwybrau atgynhyrchadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ôl-osod atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer addasu i hinsawdd drefol.

Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol o academyddion (gan gynnwys arbenigwyr mewn pensaernïaeth, ecoleg, y gyfraith, llenyddiaeth ac anthropoleg) a phartneriaid cymdeithasol (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ac arloeswyr mewn adeiladu, tai cymdeithasol, isadeiledd gwyrdd, ac atebion sy'n seiliedig ar natur). 

Mae egwyddorion cynnull Tîm y prosiect wedi'u nodi yn https://www.liverpool.ac.uk/researcher/what-is-thrive/ ) Bydd y rhain yn cael eu mabwysiadu a'u haddasu gan ein cyd-arweinwyr a'n cydweithwyr.

Bydd gan y Cynorthwy-ydd Ymchwil sgiliau rhyngbersonol rhagorol, bydd yn hyblyg ac yn gallu datrys problemau'n dda. Bydd yn gallu cydweithio i amserlenni penodol gyda chydweithwyr academaidd a diwydiant ar ganlyniadau ymchwil, gan gynnwys mapio a datblygu cronfeydd data, dadansoddi cyfweliadau a gweithdai, cynhyrchu gwaith i'w gyhoeddi ac yn y blaen (gweler y Disgrifiad Swydd am fwy o fanylion).

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr