Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01249
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £34,132 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Academi Hywel Teifi
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
2 Tach 2025
Dyddiad Cyfweliad
17 Tach 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.  Rydym yn chwilio am diwtor iaith Gymraeg brwdfrydig ac ymroddedig i helpu i gyflwyno cyrsiau Cymraeg o safon uchel i amrywiaeth eang o ddysgwyr sy'n oedolion.

Fel Tiwtor Iaith, byddwch yn addysgu ar draws amrywiaeth o lefelau, o ddechreuwyr pur i ddechreuwyr uwch, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae ein cyrsiau'n seiliedig ar y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg ac yn cynnwys darpariaeth gyffredinol yn ogystal â rhaglenni wedi'u teilwra ar gyfer y gweithle, teuluoedd a grwpiau cymunedol.  Mae rhan sylweddol o'r rôl hefyd yn cynnwys annog dysgwyr i ddefnyddio Cymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan gefnogi rhaglen o weithgareddau dysgu anffurfiol a helpu i greu ymdeimlad cryf o gymuned ymhlith dysgwyr.

Bydd gennych rôl bwysig wrth gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Drwy gyflwyno gwersi diddorol ac effeithiol, darparu adborth adeiladol a magu hyder dysgwyr, byddwch yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nod hwn.

Mae angen hyblygrwydd ac ymrwymiad i ymgymryd â'r rôl hon. Cynhelir llawer o'n cyrsiau gyda'r hwyr, ac o bryd i'w gilydd bydd gennych ymrwymiadau ar y penwythnos. Mae’n bosib hefyd y bydd angen i chi ddysgu ar draws ardaloedd awdurdodau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Byddwch hefyd yn cyfrannu at baratoi gwersi, asesu dysgwyr, gweithgareddau marchnata a recriwtio, yn ogystal â chyfarfodydd tîm a datblygiad proffesiynol.

Rydym yn chwilio am unigolyn  â thystiolaeth o brofiad o addysgu Cymraeg i oedolion i safon uchel, sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac angerdd go iawn am rymuso pobl i ddysgu a defnyddio'r iaith. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn rhan o dîm deinamig a chefnogol a bydd gennych gyfleoedd i ddatblygu eich ymarfer dysgu, ymgysylltu â'r gymuned leol a gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau dysgwyr.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

 

Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr