Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01251
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
4 Tach 2025
Dyddiad Cyfweliad
12 Tach 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Alecia Cousins a.l.cousins@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd am gyfnod penodol tan 26 Chwefror 2026, yn gweithio 7 awr yr wythnos.

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Ymchwil brwdfrydig i ymuno â phrosiect Dyfodol Ffres. Mae'r swydd hon yn swydd rhan-amser (0.2CALl) am gyfnod penodol o bedwar mis.  Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm rhyngddisgyblaethol sy'n cwmpasu meysydd Seicoleg a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe a bydd yn cyfrannu at brosiect sy'n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles trwy faeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth banciau bwyd. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi’r gwaith o gyd-ddylunio menter i gyflwyno cynnyrch bwyd ffres i fanc bwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid cymunedol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo wrth fapio rhanddeiliaid, hwyluso trafodaethau bwrdd crwn rhithwir, a chadw cofnodion cywir o gyfarfodydd i sicrhau cynnydd amserol y fenter a chwblhau camau gweithredu. Bydd hefyd yn cael y cyfle i ennill profiad ymarferol mewn sefydliad banc bwyd lleol, gan weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr arweiniol a chyd-arweiniol y prosiect, ac i gydweithio â rhwydwaith eang o arbenigwyr ar draws sawl sector.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr