Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01260
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£46,735 i £55,755 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
9 Tach 2025
Dyddiad Cyfweliad
24 Tach 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd am gyfnod penodol tan fis Mawrth 2029, gan weithio’n amser llawn.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd deiliad y swydd yn rheoli ac yn cynnal rhaglen o brosiectau ymchwil feintiol a phlatfform data a ddatblygwyd ar gyfer salwch meddwl difrifol, gan weithio'n agos gyda DATAMIND a'r Hyb Ymennydd a Genomeg Blaenllaw, sydd ill dau'n rhan o Hyb Platfform Iechyd Meddwl UKRI. Ceir perthnasoedd gweithio agos gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ag awydd i ddatblygu fel ymchwilydd ac arweinydd iechyd meddwl byd-eang.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa o'r canlynol:

  • Cymorth gyda datblygu sgiliau a gyrfa gan dîm ffyniannus sydd wedi cael dros £89m o gyllid ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf.
  • Byddwch yn gweithio yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe
  • Bydd cyfle i weithio'n agos gyda DATAMIND, Hyb Platfform Iechyd Meddwl Ymennydd a Genomeg UKRI a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Bydd angen cymhwyso sgiliau ymchwil, dadansoddi, epidemiolegol a rhaglennu i ateb cwestiynau ymchwil allweddol a chreu platfformau data ar gyfer cynnal gwaith dadansoddi sy'n arwain newid ar sail tystiolaeth mewn iechyd meddwl, atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
  • Datblygu sgiliau arweinyddiaeth gyda chyfleoedd am reoli llinell a disgwyliad i weithredu fel uwch-arweinydd ar bortffolio o brosiectau yn y tîm

Bydd yr ymchwilydd a benodir yn ymuno â'r tîm a arweinir gan yr Athro Ann John gyda ffocws ar iechyd meddwl ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Yr Athro Ann John yw Prif Ymchwilydd Abertawe yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a DATAMIND. A hithau hefyd yw cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ac yn cyd-arwain Cenhadaeth Thema Data a Digidol Iechyd Meddwl. Mae'r tîm yn canolbwyntio ar drosi ymchwil yn bolisi ac ymarfer.

Byddwch yn ymuno â thîm yr Athro John ac yn gweithio gydag adnoddau data fel banc data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae SAIL yn Ganolfan Ragoriaeth ymchwil sy'n dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid amlddisgyblaethol drwy gydweithio catalytig. Mae'n hafan ddiogel ar gyfer biliynau o gofnodion personol, sy'n rhychwantu hyd at 20 mlynedd, o boblogaeth gyfan Cymru, sy'n galluogi ymchwilwyr i ateb cwestiynau pwysig er budd cymdeithas. Byddwch hefyd yn gweithio ar y garfan NCMH sydd wedi'i ffenoteipio'n ddwfn gyda mynediad at ddata aml-foddol (omigau, delweddu, meddyginiaethau etc)

Bydd gan ddeiliad y swydd gefndir cryf mewn epidemioleg glinigol a/neu wyddor data iechyd a bydd yn frwdfrydig am weithio gyda data iechyd meddwl gyda gradd ôl-raddedig neu brofiad cyfwerth perthnasol.  Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o ddefnyddio setiau data perthynol mawr drwy SQL, byddwch yn hyfedr mewn iaith raglennu megis R, Stata neu Python, a bydd gennych brofiad o ddefnyddio data mawr cyffredinol megis cofnodion gofal sylfaenol a derbyniadau i'r ysbyty.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr