Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01264
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
9 Tach 2025
Dyddiad Cyfweliad
20 Tach 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rôl y Cynorthwy-ydd Ymchwil hwn yw gweithio ar Astudiaeth Arbrofol a model Mecaneg Solidau Cyfrifiadurol o ddeunyddiau meddal gyda chymhwysiad i ynni adnewyddadwy yn gyffredinol a deunyddiau hyblyg ar gyfer trawsnewidyddion ynni tonnau yn benodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y prosiect Mor-Neidr a ariennir gan UKRI a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau cyfrifiadurol wedi'u dilysu'n arbrofol ar gyfer polymerau meddal gan gynnwys model fiscoelastig a fiscoplastig. Er mai prosiect rhyngddisgyblaethol yw hwn lle mae fframweithiau cyfrifiadol ar gyfer Mecaneg Solidau a Mecaneg Hylifau'n uno, disgwylir i'r Cynorthwy-ydd Ymchwil gynnal ymchwil annibynnol a datblygu gosodiadau arbrofol newydd er mwyn cynnal arbrofion ar bolymerau glud-elastig a bydd yn gweithio ar integreiddio'r feddalwedd gysylltiedig ar gyfer ochr Mecaneg Solidau'r prosiect dan arweiniad y Prif Ymchwilwyr a chydweithredwyr eraill ar y prosiect. Bydd datblygu rig profi newydd ar gyfer cydran deunydd meddal yn rhan fach o'r rôl, felly mae profiad o ddylunio mecanyddol yn fantais.  Yn ogystal, bydd yr Ymchwilydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr a fydd yn gweithio'n bennaf ar ddylunio ac arbrofi gyda chynaeafwyr ynni meddal.

Mae tîm arweinyddiaeth y prosiect yn cynnwys yr Athro. Mokarram Hossain a'r Athro. Ian Masters o Brifysgol Abertawe a'r Partner Diwydiant Checkmateflex. Mae'r tîm hefyd yn cael ei gefnogi'n gryf gan ychydig o Bartneriaid Diwydiant fel Wave Venture Ltd, Offshore Renewable Energy Catapult, CGEN Engineering Partner (CGEN) Ltd. Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil yn cael cyfleoedd i ymweld â phartneriaid diwydiannol ar gyfer gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth byrdymor.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr