Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01277
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
18 Tach 2025
Dyddiad Cyfweliad
3 Rhag 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe am benodi Cymrawd Addysgu am gyfnod penodol yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Bydd y rôl yn cynnwys addysgu ar ein rhaglen MA newydd mewn Pŵer, Rhywedd a Thrais ac felly mae profiad o addysgu trais a niwed ar sail rhywedd yn ofyniad hanfodol. Mae'r cyfle tymor byr hwn wedi codi o ganlyniad i un o dim y rhaglen yn gadael yr adran.

Bydd y rôl hon yn cynnwys ystod o gyfrifoldebau cydlynu, gweinyddol, a bugeiliol, ac ymrwymiad i fentrau recriwtio myfyrwyr. Bydd cyfrifoldebau allweddol eraill y rôl hon yn cynnwys addysgu a marcio ar fodiwlau a ddyrennir yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Bydd disgwyl i'r tiwtor fod yn hyblyg i addysgu ar draws yr adran yn ôl yr angen.

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm ysbrydoledig sy'n gallu cyfrannu at uchelgeisiau'r Brifysgol a'r Ysgol i fod ar flaen y gad o ran dysgu wedi'i gyfoethogi'n ddigidol, gan adeiladu ar hanes yr Ysgol o ran profiad rhagorol i fyfyrwyr.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr