- Rhif y Swydd
- SU01305
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Swyddfa’r Is-ganghellor
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 15 Rhag 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 7 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Deborah Howell deborah.howell@swansea.ac.uk
- Lauren Rees Lauren.rees2@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym am benodi Ymgynghorydd Cyfreithiol brwdfrydig i fod yn rhan o dîm cyfreithiol mewnol y Brifysgol i atgyfnerthu'r adnodd cyfreithiol yn y Brifysgol i ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol.
Mae hyn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Gwasanaethau Cyfreithiol cydweithredol yn Swyddfa'r Is-ganghellor. Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor, cefnogaeth a chymorth cyfreithiol i gydweithwyr yng Nghyfadrannau a Chyfarwyddiaethau Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol ym mhob maes o’r gyfraith sy'n berthnasol i weithrediadau'r Brifysgol. Mae'r rôl hon yn eang ac yn ddeinamig.
Byddwch yn cynghori ar amrywiaeth o faterion cyfreithiol, gan weithio mewn tîm cydweithredol a chefnogol. Rydym yn chwilio am unigolyn a all weithio fel rhan o dîm a gweithio'n annibynnol ar lwyth gwaith achosion uchel.Bydd y rôl yn cynnwys ymchwilio, drafftio ac adolygu dogfennau, contractau, cytundebau, adroddiadau, llythyrau a nodiadau cyngor proffesiynol yn unol â gofynion y Brifysgol. Byddai profiad o Gyfraith Cyflogaeth a/neu Gyfraith Fasnachol yn ddymunol.
Bydd y rôl hon yn allweddol wrth gefnogi'r Brifysgol, drwy gynnig gwasanaeth proffesiynol, sydd wedi’i lunio a’i lywio gan flaenoriaethau a gwerthoedd ein Prifysgol a'r sector addysg uwch ehangach.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr